Mae Rakie Ayola wedi ymateb yn chwyrn i awgrym gan gyflwynydd y BBC y gellid ystyried bod y gyfres The Pact yn “woke” am iddyn nhw gynnwys teulu du.
Roedd yr actores o Gaerdydd yn westai ar raglen frecwast y BBC heddiw (dydd Llun, Hydref 24) i drafod ail gyfres y ddrama boblogaidd a gafodd ei chreu a’i ffilmio yng Nghymru.
“Galla i eich gweld chi’n rholio’ch llygaid,” meddai’r cyflwynydd Victoria Fritz ar ôl gofyn y cwestiwn sut fyddai hi’n ymateb i’r honiadau.
Ond roedd ei hymateb i’r cwestiwn yn un chwyrn.
“Os yw rhywun eisiau dweud hynny wrtha i, yr hyn fyddwn i’n ei ddweud yn gyntaf yw esboniwch beth rydych chi’n ei olygu wrth ‘woke’, ac yna fe gawn ni’r sgwrs,” meddai.
“Os na allwch chi ei esbonio, peidiwch â rhoi’r gair hwnnw i fi.
“Peidiwch â defnyddio gair na allwch chi mo’i ddisgrifio.
“Oherwydd dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n ei olygu, neu efallai eich bod chi’n gwybod yn union beth rydych chi’n ei olygu, ac rydych chi’n ofni dweud yr hyn rydych chi’n ei olygu, felly gadewch i ni gael y sgwrs honno.
“Feiddiech chi ddim, wyddoch chi beth dw i’n ei olygu?”
‘Dywedwch beth rydych chi’n ei olygu’
“Eisteddwch yno a dywedwch wrtha i beth rydych chi’n ei olygu wrth ‘woke’ ac yna gallwn ni siarad am a yw’r sioe hon yn ‘woke neu beidio,” meddai wedyn wrth i’w sylwadau barhau.
“Oherwydd wedyn, bydda i’n eich cyflwyno chi i deulu union fel yr un yma.
“Felly pan ydych chi’n dweud nad ydyn nhw’n bodoli pan maen nhw’n amlwg [yn bodoli], ydych chi’n dweud nad oes ganddyn nhw hawl i fodoli?
“Beth ydych chi’n ei olygu wrth hynny?
“Gadewch i ni gael sgwrs go iawn.
“Peidiwch â thaflu geiriau o amgylch ar hap pan nad ydych chi’n ofni dweud yn union beth rydych chi’n ei olygu.
“Os nad ydych chi’n gwybod, plis byddwch yn dawel oherwydd rydych chi’n eithriadol o ddiflas.”