Dychwelodd Gŵyl Sŵn i Gaerdydd dros y penwythnos (Hydref 21-23), gyda setiau byw gan amryw o artistiaid mewn sawl lleoliad yn y ddinas.

Fe wnaeth 120 o artistiaid ymddangos mewn naw o leoliadau, gan gynnwys Clwb Ifor Bach, Tramshed a Marchnad Jacob.

Ymysg y perfformwyr roedd Breichiau Hir, Adwaith, Eädyth & Izzy Rabey, Mellt ac Aderyn.

Mae’r ŵyl flasu yn cyflwyno cymysgedd o artistiaid newydd a rhai sefydledig o Gymru, gweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Dyma flas ar y perfformwyr…


Mae’r artist pop Cymraeg Aderyn o Aberhonddu wedi ennill Gwobr Triskel eleni, sy’n rhan o’r 12fed Gwobr Gerddoriaeth Gymreig flynyddol.

Mae Aderyn wedi cael ei chydnabod yn dilyn rhyddhau ei sengl dros yr haf ‘Playground’ a ‘Honey’ – sydd wedi bod ar donfeddi’r BBC ers eu rhyddhau yn gynharach eleni.

Aderyn

Yn sicr, Talk Show, y band ôl-pync o dde Llundain, oedd y perfformwyr mwyaf egnïol dros y penwythnos.

Talk Show

Band arall wnaeth ddenu torf fawr oedd Mellt, y band a wnaeth eu marc yn 2018 gan ennill gwobr Albwm Cymraeg Gorau’r flwyddyn.

Mellt

Prosiect cerddorol George Amor (Sen Segur gynt) a Llŷr Pari (Y Niwl) yw Omaloma, a buon nhw’n perfformio yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Sadwrn (Hydref 22).

Omaloma

Timothy Francis Lee o Benarth yw yxngxr1, sy’n cael ei ynganu fel ‘younger one’.

Mae’n ganwr a rapiwr sydd ar hyn o bryd wedi arwyddo i label recordio Americanaidd EMPIRE.

Yxngxr1

Bu Ëadyth ac Izzy Rabey, colofnydd cylchgrawn golwg, yn diddanu gyda’r hwyr yn Tiny Rebel.

Dyma glip o ‘Cymru Ni’ sydd “ambwyti’r bobl a sefydliadau Cymraeg sydd ddim fel arfer yn cael eu canoli o ran cynrychioli diwylliant Cymraeg”, meddai Izzy Rabey wrth Y Selar.

“Oedd e hefyd yn ymateb i’r hiliaeth sy’n dal i fodoli tuag at bobol ddu Cymraeg, a hefyd sut mae Cymru’n gallu bod yn eitha’ obsessed gyda bod yn ddiwylliant lleiafrifol, ond heb gymryd cyfrifoldeb am ein rhan yn colonialism a perpetuatio darlun eitha’ cul o sut mae rhywun Cymraeg i fod i edrych ac ati.”


Canwr-gyfansoddwr ifanc o Surrey yw George O’Hanlon, sydd wedi’i ysbrydoli gan fawrion fel Jeff Buckley, Thom Yorke a Johnny Cash.

Aeth golwg360 i’w weld yn perfformio ym Marchnad Jacob ddydd Sadwrn.

George O’Hanlon