Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant wrth gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni.

Er mwyn cael pawb yn y gymuned at ei gilydd, mae’r Mentrau Iaith lleol ar draws Cymru yn cynnal sesiynau canu cymunedol gyda chaneuon anthemig fel Yma o Hyd, Calon Lân a Hogia Ni.

Mae’r caneuon i gyd mewn llyfryn bach sydd yn cynnwys fersiwn Gymraeg a fersiwn ffonetig ochr yn ochr i siaradwyr Cymraeg – profiadol neu newydd – a siaradwyr di-Gymraeg allu cyd-ganu.

Caneuon Dafydd Iwan yw’r ysbrydoliaeth i’r gweithgareddau, a ‘Mae’n Wlad i Mi’ yw’r gân sydd wedi ysbrydoli’r syniad o gynnal y sesiynau canu cymunedol yma sydd ar gyfer pawb yng Nghymru.

Tafarn y Vale yn Ystrad Aeron oedd lleoliad un o sesiynau cyntaf y Mentrau Iaith gyda Steff Rees o Cered, Menter Iaith Ceredigion, yn arwain y sesiwn ar nos Fercher, Hydref 19.

Ymhlith y rhai oedd yno mae Peter a Sue Evans.

“Diolch yn fawr i Steff a Cered am drefnu noson mor wych yn ‘Noson Canu yn y Vale’ dydd Mercher yma,” medden nhw.

“Cawsom ni lawer o hwyl yn dysgu a chanu rhai caneuon traddodiadol mewn awyrgylch hyfryd lle roedd cyfle hefyd i ymarfer ein Cymraeg gyda dysgwyr eraill a siaradwyr iaith gyntaf.

“Mae llyfryn ‘Mae’n Wlad i Mi’ yn ‘great hit’ ac mae wedi’i gynllunio’n dda iawn gyda’r geiriau yn Gymraeg, canllaw ffonetig, cyfieithiadau a hyd yn oed cordiau gitâr.

“Mae’n mynd i fod yn gyfleus iawn ar gyfer Cwpan y Byd ac ein ymarferion gartref.”

‘Adnodd arbennig’

Meddai Steff Rees o Cered, y Fenter Iaith yng Ngheredigion, arweiniodd y noson:

“Mae’r llyfryn yn adnodd arbennig i ni fel Menter Iaith gan ei fod yn caniatáu ni i gynnal noson Gymraeg mewn tafarn neu leoliad cymunedol yn ddi-ffwdan,” meddai Steff Rees.

“Roedd yr adborth o’r sesiwn yma yn arbennig a gwnes i fwynhau pob munud o arwain y noson.

“Dwi’n edrych ymlaen at y nesaf yn barod!”

Bydd sesiynau eraill yn Neuadd Llansilin, Tafarn Cwrw Caerfyrddin, Tŷ Tawe yn Abertawe, a llawer mwy.

Mae rhestr o’r sesiynau a chopi digidol o’r llyfryn ar wefan Mentrau Iaith Cymru.

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch gyffrous hon,” meddai Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru.

“Mae’n gyfle arbennig i ddangos bod Cymru a’r Cymry yn croesawu pawb o bob cefndir i’n cymunedau trwy ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ac wrth gwrs yr iaith Gymraeg, ein diwylliant a threftadaeth.

“Gwlad y Gân ydy Cymru, felly be’ well na chyd-ganu i ddathlu?”