Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Llywodraeth Cymru wedi rhannu ail fideo’r gyfres ‘Codi Llais’ sy’n cynnwys nifer o chwaraewyr Cymru.

Mae ‘Codi Llais: Herio Agweddau’ yn datgelu sgyrsiau rhwng pêl-droedwyr Cymru – Joe Allen, Lily Woodham, Esther Morgan a Joe Morrell – sy’n trafod pa mor bwysig yw hi fod bechgyn a dynion yn codi llais yn erbyn ymddygiad amhriodol tuag at ferched a menywod.

Mae’r fideo yn un o gyfres o dri lle mae’r sgyrsiau yn trafod codi llais yn erbyn casineb tuag at ferched ar-lein, rhoi gwybod yn ddiogel am ymddygiad amhriodol, yn ogystal ag annog pobol ifanc i godi eu llais am aflonyddu rhywiol ar-lein.

Mae’r gyfres fideo ‘Codi Llais’ yn cyfeirio at adnoddau perthnasol a chyngor i deuluoedd, plant ac addysgwyr sydd ar gael ar Hwb, y platfform dysgu digidol ar gyfer ysgolion Cymru.

 

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobol yn ddiogel ar y cae, ac oddi arno,” meddai Siân Jones, Rheolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rydym ni’n falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru a defnyddio llwyfan chwaraewyr Cymru i sicrhau bod y pynciau sy’n cael eu trafod yn fwy hygyrch i rieni, athrawon a gwarcheidwaid.”

Aflonyddu rhywiol ar-lein wedi dod yn “fater cynyddol gyffredinol a heriol”

Cafodd fideo gyntaf y gyfres, ‘Codi Llais: Aflonyddu Rhywiol Ar-lein’, ei lansio ym mis Gorffennaf, ac mae’n hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch.

I gyd-fynd â’r lansiad gwreiddiol, ymwelodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, ag Ysgol Gymunedol y Porth, lle ymunodd â disgyblion mewn gwers ar herio’r broblem o aflonyddu rhywiol ar-lein, lle cafodd y fideo newydd ei gweld gyntaf gan ddisgyblion a staff yr ysgol.

“Mae aflonyddu rhywiol ar-lein wedi dod yn fater cynyddol gyffredin a heriol, ac yn un all gael effaith anferth ar bobol sy’n ei ddioddef,” meddai.

“Bydd y fideo newydd yn rhoi i’n hymarferwyr addysg yr adnoddau i gefnogi sgyrsiau pwysig gyda phobl ifanc am ddifrifoldeb y mater – sut mae’n edrych, sut i roi gwybod am ymddygiad amhriodol a sut i gael cyngor pellach, drwy ein platfform Hwb i ysgolion.

“Mae pêl-droedwyr rhyngwladol Cymru, â’u llwyddiant digynsail ar y cae, yn fodelau rôl mor wych i blant a phobol ifanc, felly mae’n wych eu bod yn arwain drwy esiampl drwy siarad am y mater hwn.”

Adnoddau

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Childnet International i gyhoeddi deunyddiau dysgu addas i oedrannau penodol ar aflonyddu rhywiol ar-lein, sef ‘Dim ond jôc?’, ar gyfer plant 9-12 oed, a ‘Codi Llaw, Codi Llais’, ar gyfer y grŵp 13-17 oed.

Mae pecyn hyfforddi yn cael ei ddatblygu i helpu athrawon i gynyddu eu hyder o ran mynd i’r afael â’r mater.

Gall plant a phobol ifanc hefyd gael cyngor am aflonyddu rhywiol ar-lein, gan gynnwys sut mae’n edrych, sut i roi gwybod am yr ymddygiad hwn a sut i gael help, yn adran ‘Materion a phryderon ar-lein’ Hwb.

Cafodd y cyngor a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth ei gyd-gynllunio gyda phlant a phobol ifanc, ac fe gafodd ei lunio ar sail ymchwil gan Lywodraeth Cymru i’w profiadau a’u pryderon ar-lein a rhai o’r rhwystrau i gael cymorth.