Mae’r newyddiadurwr Andy Bell, sy’n byw yn Awstralia ond sy’n llais cyfarwydd yn y Gymraeg, wedi beirniadu erthygl gan The Courier sy’n lladd ar Aeleg yr Alban a’i siaradwyr.

Mae’n dweud bod “esgus ysgrifennu rhywbeth nad yw ond yn borthiant diog ar gyfer y golofn lythyrau a sylwadau ar-lein yn Johnsonaidd”, gan gyfeirio at Boris Johnson, oedd unwaith yn newyddiadurwr.

Roedd yn ymateb i erthygl gan Steve Finan oedd yn honni bod “esgus bod yr Alban yn genedl sy’n siarad Gaeleg yn andwyol i ni”, a bod y rhan fwyaf “llethol” o Albanwyr “yn siarad Saesneg”.

“Mae arwyddion ffordd Gaeleg yn iawn lle caiff yr iaith ei siarad, ond does dim o’u hangen nhw yn y tiroedd isel,” meddai yn ei erthygl.

“Cyfrwch sawl gwaith gofynnwyd i chi: ‘A ddylwn i aros ar y trên tu hwnt i Inbhir Ghobharaidh tan Port Bhruachaidh”? (Invergowrie, Broughty Ferry).

“Ac a oes nifer yn Dundee sy’n ffonio 999 a gofyn am y poileas (heddlu) neu ambaileans (ambiwlans)?”

Mae’n dadlau nad yw “rhoi’r argraff ein bod ni’n siarad iaith nad yw llawer y tu hwnt i’n ffiniau’n ei defnyddio yn hybu’r Alban, ond yn ein rhoi ni ar y cyrion”.

Mae’n “nawddoglyd” i siaradwyr fod y rheilffyrdd wir yn Aeleg o ran eu hagwedd, meddai.

“Mae angen i’r byd wybod nad yw’r rhan fwyaf o Albanwyr yn siarad Gaeleg,” meddai wedyn.

“Does gen i ddim byd yn erbyn Gaeleg. Hawl pawb yw defnyddio pa bynnag iaith sy’n well ganddyn nhw.

“Mae dysgu iaith arall yn helpu dealltwriaeth o’ch mamiaith.

“Mae hynny’n beth da, ac yn rheswm sy’n aml yn cael ei roi am ddysgu Gaeleg.

“Ond byddai dysgu Almaeneg yn cyflawni’r un swyddogaeth, ac yn fwy defnyddiol wrth drefnu i allforio wisgi i Berlin.

“Mae ceisio’n darbwyllo’n hunain ein bod ni rywsut “yn fwy Albanaidd” wrth siarad Gaeleg yn cul-de-sac, yn tynnu oddi ar yr hyn sydd wir yn bwysig.

“Mae angen i ni fod yn ymarferol wrth wahaniaethu rhwng yr hyn sydd wir yn dda i’n gwlad, a ‘cute kilted gonks’.

“Rydyn ni’n edrych i mewn ar adeg pan na allwn ni ffordd bod yn fewnblyg.

“Rydyn ni’n siarad Saesneg, un o’r ieithoedd sy’n cael ei defnyddio fwyaf mewn masnach.

“Mae cyfathrebu’n hanfodol wrth fasnachu a dylai’r Alban anelu i gael cyn lleied o rwystrau i fasnach â phosib.

“Mae angen i ni werthu’r Alban mewn iaith mae pawb yn ei deall.

“Dw i hefyd yn poeni y gallai cyhoeddi bod yr Alban yn siarad Gaeleg droi i ffwrdd siaradwyr Saesneg y gellid eu perswadio i symud i’n hardaloedd lleiaf poblog.

“Mae denu mewnlifiad o bobol ifanc, egnïol sy’n gweithio yn angen llawer mwy nag adeiladu ffantasi ramantaidd o’r Alban fel lle hynod sydd ag iaith na fyddan nhw’n ei gwybod.

“Nid darn mewn amgueddfa mohonom.

“I orffen, gofynnaf hyn: a fyddech chi’n oedi cyn mynd i mewn i siop ag arwyddion Gaeleg, gan feddwl efallai na fyddai’r staff yn eich deall chi?

“Neu’n mynd drws nesaf i siop debyg lle rydych chi’n gwybod y cewch chi’ch deall?”

Ymateb

Mae’r erthygl wedi cael cryn ymateb ar Twitter ac ar y wefan newyddion, fel yr oedd Andy Bell wedi’i ddisgwyl.

“Mae esgus ysgrifennu rhywbeth nad yw ond yn borthiant diog ar gyfer y golofn lythyrau a sylwadau ar-lein yn Johnsonaidd,” meddai.