Doedd Cyngor Sir Ceredigion ddim wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg cyn penderfynu ymgynghori ar gau ysgol wledig yn y sir, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Efa Gruffydd Jones mewn llythyr at gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon nad oedd y Cyngor wedi asesu’n gywir effaith cau’r ysgol ar y Gymraeg, gan mai’r Gymraeg yw cyfrwng naturiol plant ar yr iard yn yr ysgol.
Pe bai’r ysgol yn cau, meddai, byddai’r plant yn cael eu hanfon i ysgol gyfagos lle nad oes defnydd o’r Gymraeg ar yr iard.
Cyngor Ceredigion yn cydnabod eu methiant
Mewn gohebiaeth rhwng y Cyngor a swyddfa’r Comisiynydd, sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Hydref 18), mae’r Cyngor yn cydnabod eu bod nhw wedi methu â chydymffurfio â’u cyfrifoldebau o dan Safonau’r Iaith, ac yn ymrwymo “fel mater o flaenoriaeth” i ddiwygio’r Asesiad Effaith ar y Gymraeg.
Dywedodd y Cyngor y bydden nhw hefyd yn cyhoeddi’r fersiwn newydd ar eu gwefan, ac yn cynnig mwy o amser i ymateb i’r ymgynghoriad.
Dywedodd y Comisiynydd nad oes angen cynnal ymchwiliad i’r achos, gan fod y Cyngor yn cydnabod eu bod nhw ar fai.
Mae Ysgol Llangwyryfon ymhlith y tair ysgol Gymraeg gwledig yng ngogledd Ceredigion sy’n destun ymgynghoriadau ar eu cau, gydag Ysgol Craig-yr-Wylfa ac Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn yn wynebu bygythiadau i’w dyfodol hefyd.
Mae disgwyl agor ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd yn ddiweddarach yn y mis, wedi i’r Cyngor ymgynghori â’r Eglwys yng Nghymru.
Methiant y Cyngor yn “siomedig”
Yn ôl Jeff Smith, cadeirydd rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith, mae’r ohebiaeth yn “enghraifft arall o sut mae’r Cyngor wedi bwrw ymlaen yn benderfynol gyda’r cynllun i gau’r pedair ysgol heb hyd yn oed trafod yn gyntaf effaith lawn cau’r ysgolion na’r holl opsiynau amgen”.
“Byddai’n well o lawer petai’r Cyngor yn terfynu’r holl ymgynghoriadau hyn ac yn lle hynny eistedd lawr gyda’r ysgolion gwledig a chymunedau i drafod yn gadarnhaol yr opsiynau gorau wrth symud ymlaen,” meddai.
Mae Gwyn Wigley Evans, cynghorydd sir yn Llangwyryfon, yn “siomedig” am fethiant y Cyngor i gydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg ac yn “falch ei fod yn mynd i gwympo ar ei fai”.
Mae’r awdurdod lleol yn wynebu cwyn ffurfiol i Ysgrifennydd Addysg Cymru nad ydyn nhw wedi cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion wrth lunio’r ymgynghoriad.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn eu cwyn ar ddechrau’r wythnos fod y Cyngor wedi dechrau’r drafodaeth gyda’r bwriad o wneud arbedion ariannol, yn hytrach na rhoi buddiannau addysg a dysgwyr yn gyntaf.
Dywedon nhw hefyd fod y Cyngor wedi peidio ystyried na thrafod yn gyntaf opsiynau amgen gydag ysgolion, yn unol â gofynion y Cod.
Mae cyfnod ymgynghori agorodd ar Hydref 14 wedi’i ymestyn am ddau ddiwrnod, gan nad oedd y Cyngor wedi rhoi’r dogfennau ar yr arian priodol ar eu gwefan tan Hydref 15.