Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd ac Islwyn ymhlith y tri fydd yn cyflwyno cynigion ar gyfer deddfu o blaid lles anifeiliaid gerbron Tŷ’r Cyffredin.

Mae disgwyl y bydd y cynnig gan Ruth Jones, fydd yn Fesur Aelod Preifat, yn ceisio dod â mewnforio ffwr yn fasnachol i’r Deyrnas Unedig i ben yn gyfangwbl.

Mae elusen yr RSPCA wedi canmol ei chynnig.

“Hen bryd” gwahardd mewnforio ffwr

Bydd cynnig Ruth Jones yn ailgyflwyno ymrwymiadau gafodd eu gollwng gan y llywodraeth ddiwethaf.

Dywed ei bod hi’n “hen bryd” gwahardd mewnforio fwr, gan ychwanegu ei bod hi’n “rhagrithiol” fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwahardd ffermio ffwr ers ugain mlynedd, ond yn dal heb weithredu i rwystro mewnforio.

Mae’r RSPCA, ynghyd â’r Humane Society International ac elusen Four Paws UK, wedi bod yn ymgyrchu am ddiwedd i’r fasnach ffwr ers cryn amser.

Yn 2022, fe wnaeth y Deyrnas Unedig fewnforio gwerth £42m o ffwr a chynnyrch ffwr.

“Cafodd cynlluniau i gyfyngu’r gallu i fewnforio ffwr eu neilltuo gan y llywodraeth flaenorol – a thros ugain mlynedd wedi gwahardd ffermio ffwr yma’n y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i’n cyfraith fasnach ddal lan,” meddai David Bowles, Pennaeth Materion Cyhoeddus yr RSPCA.

“Mae hyn yn enwedig yn wir o ystyried adroddiadau bod gwisgo ffwr yn dechrau dod yn boblogaidd ymhlith enwogion unwaith eto.”

‘Blaenoriaethu lles anifeiliaid’

Yn ogystal â chynnig Ruth Jones, bydd dau Aelod Seneddol arall yn cyflwyno mesurau er lles anifeiliaid yr wythnos hon.

Bydd mesur Sarah Owen, Aelod Seneddol Llafur Gogledd Luton, yn ceisio hyrwyddo’r defnydd cyfrifol o dân gwyllt, a bydd mesur Danny Chambers, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerwynt (Winchester), yn ceisio mynd i’r afael â smyglo cŵn a chathod bach a ffuredau.

O’r ugain aelod seneddol fydd yn cael cyflwyno Mesurau Aelodau Preifat, felly, bydd 15% yn canolbwyntio ar les anifeiliaid.

“Mae’n wych gweld aelodau’r Senedd newydd yn blaenoriaethu lles anifeiliaid, ac yn defnyddio’r cyfle hwn er mwyn gwthio cynigion fyddai’n medru gwneud gwahaniaeth go iawn i anifeiliaid,” meddai David Bowles.

“Rydyn ni’n ymwybodol eisoes fod 84% o bobol yn credu y dylai lles anifeiliaid gael ei amddiffyn yn ddeddfwriaethol gan lywodraethau – felly mae gweld aelodau seneddol yn cymryd yr awenau mor gynnar yn y Senedd hon er mwyn ceisio gwthio newid cadaranhaol, a chreu byd tecach i bob anifail, i’w groesawu’n fawr.”

‘Uchelgais’

“Mae gan y Senedd hon uchelgais arbennig ar gyfer lles anifeiliaid, ac mae hynny wedi’i brofi gan y Mesurau Aelodau Preifat yma,” meddai Ruth Jones.

“Mae’n ddau ddegawd ers i ni wahardd ffermio ffwr yn y wlad hon, ac mae’n hen bryd i ni wahardd mewnforio cynnyrch ffwr, hefyd.

“Mae’n amser i ni roi’r gorau i’r rhagrith, a dw i’n galw ar aelodau ar draws y Tŷ i gefnogi’r mesur.”