Yn ystod ei hymweliad tramor cyntaf yn Brif Weinidog, mae Eluned Morgan wedi teithio i Bhaile Átha Cliath (Dulyn) a Corcaigh (Cork) yr wythnos hon ar gyfer trafodaethau i atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.

Prif bwrpas ymweliad y Prif Weinidog fydd mynd i Fforwm Gweinidogol Cymru-Iwerddon heddiw (dydd Gwener 18 Hydref), dan ofal y Tánaiste, Micheál Martin.

Dyma’r pedwerydd Fforwm, yn dilyn cyfarfodydd yng Nghaerdydd yn 2021, Corc yn 2022 a Bangor yng ngogledd Cymru y llynedd.

Mae’r Fforwm yn canolbwyntio ar chwe maes o gydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon, sef:

  • ymgysylltu ar lefel wleidyddol a swyddogol
  • masnach a thwristiaeth
  • yr Hinsawdd a chynaliadwyedd
  • addysg ac ymchwil
  • diwylliant, iaith a threftadaeth
  • cymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar, a chwaraeon.

Ddoe (dydd Iau, Hydref 17), aeth y Prif Weinidog i Ddulyn, gan gyfarfod â Michael D. Higgins, Arlywydd Iwerddon, yn ei breswylfa swyddogol.

Yn Nulyn hefyd, cyfarfu’r Prif Weinidog ag Eamon Ryan, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gweinidog yr Amgylchedd, yr Hinsawdd a Chyfathrebu yn Llywodraeth Iwerddon.

Yn ogystal, bydd hi’n cynnal cyfarfod dwyochrog â’r Tánaiste fel rhan o ddigwyddiadau’r Fforwm heddiw.

‘Perthynas gadarn iawn’

“Mae gan Gymru ac Iwerddon berthynas gadarn iawn, gan gydweithio mewn nifer o feysydd economaidd a diwylliannol sy’n bwysig i’r ddwy ochr,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’r berthynas hon rhwng ein dwy wlad wedi’i seilio ar hen, hen gysylltiadau a chydberthynas ddiwylliannol ddofn.

“Rydyn ni’n rhannu gwerthoedd a buddiannau cyffredin, fel gwledydd modern sydd â chysylltiadau â gweddill y byd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd a threftadaeth ddiwylliannol.

“Agorodd Llywodraeth Cymru swyddfa yn Nulyn yn 2012, gan helpu i feithrin cysylltiadau a sefydlu meysydd i gydweithio ynddyn nhw.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld ein perthynas yn parhau i dyfu a chryfhau yn y dyfodol.”