Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru wedi ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymladd yn erbyn caethwasiaeth fodern.
Llynedd, roedd 500 adroddiad o ddioddefwyr posib caethwasiaeth fodern yng Nghymru, sy’n gynnydd o dros 25% o gymharu â ffigyrau 2020.
A hithau’n Ddiwrnod Gwrth-gaethwasiaeth heddiw (dydd Gwener, Hydref 18), mae Jane Hutt wedi pwysleisio’r angen am gydweithrediad er mwyn dod â’r arfer i ben.
Caethwasiaeth fodern
Mae’r Llywodraeth yn diffinio dioddefwyr caethwasiaeth fodern fel “plant, menywod neu ddynion sy’n cael eu recriwtio, eu symud, eu llochesu neu eu derbyn drwy ddefnyddio grym, pwysau, twyll, camdriniaeth neu unrhyw ddull arall er mwyn camfanteisio arnynt”.
Ymhlith y 500 gafodd eu nodi fel dioddefwyr posib llynedd mae plant ac oedolion fu’n destun camfanteisio troseddol, camfanteisio ar lafur, camfanteisio rhywiol a chaethwasiaeth ddomestig.
Yn ogystal, roedd adroddiadau bod rhai wedi’u masnachu o drefi a dinasoedd eraill yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, a bod rhai wedi’u masnachu o rannau eraill o’r byd.
‘Anodd darganfod pwy sy’n dioddef’
Mae caethwasiaeth fodern yn cael ei galw’n ‘drosedd gudd’, am ei bod yn medru bod yn anodd darganfod pwy sy’n dioddef.
Yn aml, dydy dioddefwyr ddim yn medru gadael eu mannau gwaith heb fod rhywun yn eu tywys neu eu hebrwng.
O ganlyniad, mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yn dweud bod rhannu gwybodaeth a chydweithio’n hanfodol er mwyn amddiffyn pobol sydd mewn perygl o gamfanteisio.
“Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, llywodraethau a sefydliadau datganoledig eraill ar draws pob sector, i fynd i’r afael â heriau caethwasiaeth fodern.
“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae, a gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth.”
Cynhadledd wrth-gaethwasiaeth
Yr wythnos hon, cafodd Cynhadledd Wrth-gaethwasiaeth Cymru ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Roedd yn gyfle i arbenigwyr ddod ynghyd i drosglwyddo’r hyn maen nhw’n ei wybod ac i ddysgu mwy am gaethwasiaeth fodern.
“Amlygodd y gynhadledd Gwrth-gaethwasiaeth yr heriau aruthrol sy’n ein hwynebu wrth oresgyn caethwasiaeth fodern yng Nghymru ac ni allwn anwybyddu graddau’r mater hwn,” meddai Jane Hutt.
“Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud hyd yn oed mwy o gynnydd o ran amddiffyn pobol a chefnogi unigolion sydd wedi cael eu masnachu.
“Gallwn hefyd barhau i erlyn y troseddwyr sy’n gyfrifol am gyflawni’r drosedd ofnadwy hon, a gweithio i nodi a lliniaru risgiau camfanteisio ar lafur, mewn gweithgareddau busnes a chadwyni cyflenwi.”