Mae gan gynghorwyr yng Nghaerffili tan ddiwedd 2024 i ganfod prosiectau cymunedol sy’n gymwys am arian grant.

Roedd aelodau’r Cabinet eisoes wedi rhybuddio bod rhaid i gynghorwyr “ei ddefnyddio neu ei golli” wrth drafod arian o’r Gronfa Rymuso Gymunedol nad yw wedi’i wario.

Mae’r gronfa’n darparu dros £3,000 y flwyddyn i bob cynrychiolydd er mwyn iddyn nhw gael cefnogi gwaith gwirfoddol yn eu wardiau.

Ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n wynebu twll du o filiynau o bunnoedd yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf, eisiau adennill unrhyw arian sydd heb ei wario.

Ond mae’r weithred honno wedi profi’n amhoblogaidd gyda chynghorwyr eraill, sy’n haeru y dylen nhw fod wedi cael mwy o gyfleoedd er mwyn trafod gyda’r Cabinet cyn iddyn nhw wneud y penderfyniad.

Fe wnaethon nhw alw’r penderfyniad i mewn ac annog y Cabinet i ailystyried eu cynlluniau.

‘Dim budd i gymunedau’

Yng nghyfarfod y Cabinet ddoe (dydd Mercher, Hydref 16), dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, nad yw potiau o arian sydd heb eu gwario yn “buddio’n cymunedau o gwbl”.

Dywedodd Kathryn Peters, swyddog y Cyngor, wrth y rheiny oedd yn bresennol fod dros £90,000 yn y gronfa ar hyn o bryd sydd heb ei wario.

Mewn cyfarfod rhwng cynghorwyr y gwrthbleidiau a’r cynghorwyr meinciau cefn ym mis Medi, dywedodd rhai y dylai’r Cyngor ddangos mwy o “hyblygrwydd” wrth ymdrin â cheisiadau.

Fe wnaethon nhw gwyno bod y broses yn medru cymryd sawl mis weithiau.

Fe glywodd y Cabinet yng nghyfarfod yr wythnos hon fod swyddogion wedi cymryd y cynigion hynny ymlaen ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol, ac y byddai cyngor hefyd yn cael ei ddarparu gan gorff gwirfoddol GAVO a staff Caerffili Cares y cyngor ei hun.

Dywedodd Kathryn Peters fod cynghorwyr eisoes wedi derbyn “pecyn canllaw” ar y gronfa pan gafodd ei lansio, neu wedi’r etholiad cynghorol diwethaf os mai dyna pryd y cawson nhw eu hethol.

Ychwanegodd fod pob cynrychiolydd hefyd yn derbyn e-bost ar ôl pob rownd o ariannu er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw faint o arian oedd yn weddill ganddyn nhw i’w ddyrannu.

Nododd y Cynghorydd Jamie Pritchard, oedd yn cadeirio cyfarfod y Cabinet, fod cynghorwyr lleol wedi derbyn “maint anferthol o gefnogaeth” gan swyddogion.

“Dwi wedi fy synnu’n enwedig gan gymaint o arian sy’n weddill heb ei wario,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni ddeall bod tanwariant ar ôl tanwariant… yn mynd i orfod dod i ben rywbryd.”

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner mai polisi newydd y Cyngor fydd ymestyn y terfyn amser sydd gan ymgeiswyr tan ddiwedd mis Rhagfyr eleni.

“Bydd unrhyw gyllid sydd heb ei ddefnyddio erbyn y dyddiad hwnnw’n cael ei osod yn y gronfa gyffredinol,” meddai, gan ychwanegu y bydd y terfyn amser yn weithredol ar gyfer gwariant o flynyddoedd blaenorol yn unig – ac nid i’r flwyddyn ariannol bresennol.