Mae gwasanaethau gofal iechyd Cymru’n dal i fod o dan “bwysau parhaus”, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf yr Arolygiaeth Gofal Iechyd.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Hydref 17), yn trafod pwysau ar wasanaethau brys, rhestrau aros hirfaith, a phryderon am wasanaethau iechyd meddwl.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn canmol mentrau arloesol gan nifer o adrannau’r gwasanaethau gofal wrth iddyn nhw ymateb i’r galw uchel parhaus.

Cryfderau a heriau

“Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2023-2024 yn tynnu sylw at y cryfderau a’r heriau yn y system gofal iechyd yng Nghymru,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Rydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau cadarnhaol, yn arbennig mewn meysydd fel gofal brys.”

Ymhlith y gwelliannau mae’r adroddiad yn eu crybwyll mae opsiynau amgen i gleifion sydd angen gofal brys.

Mae’r rhain, ynghyd â systemau newydd eraill, yn lleihau’r straen ac yn sicrhau modd i gynnal ansawdd gwasanaethau pan fo galw digynsail.

Ond mae gwendidau’n parhau hefyd, yn ôl yr adroddiad.

“Ceir materion sy’n achosi pwysau sylweddol o hyd y mae angen ymdrin â nhw, yn enwedig o ran capasiti a llif cleifion,” meddai Alun Jones.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at broblemau cyson o ran gorlenwi ac amseroedd aros hir mewn adrannau achosion brys ledled Cymru, er gwaetha’r strategaethau gafodd eu cyflwyno.

Mae’n rhestru prinder staff a diffyg gwelyau mae modd trsoglwyddo cleifion iddyn nhw fel rhai o brif heriau’r adrannau hyn.

Yn ogystal, mae’r adroddiad yn cydnabod problemau oedi a mynediad mewn sawl maes.

Mae’r rhain yn cynnwys gofal sydd wedi’i gynllunio, gofal deintyddol a gwasnaethau iechyd annibynnol eraill, ac yn y gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig yng ngwasanaethau plant a phobol ifanc.

Mae pryderon hefyd am ddiogelwch cleifion mewn ysbytai ac am oedi wrth eu rhyddhau.

Yn ôl yr adroddiad, mae nifer o gleifion wedi gorfod aros am gyfnod “amhriodol o hir” cyn cael eu rhyddhau, sy’n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o niwed.

‘Ysgogi gwelliannau lle bo eu hangen fwyaf’

“Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn parhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i ysgogi gwelliannau lle bo eu hangen fwyaf,” meddai Alun Jones wedyn, gan ddiolch i’r 8,200 o gleifion, staff, a gofalwyr gafodd eu holi am eu profiadau o wasanaethau gofal iechyd Cymru fel rhan o’r adroddiad.

“Mae’r wybodaeth a gawsom ganddyn nhw yn werthfawr iawn wrth ein helpu i wella gofal iechyd yng Nghymru,” meddai.