Mae’r Senedd wedi clywed bod cynghorau’n wynebu diffyg “digynsail” o ran eu cyllideb o £540m, gyda dau awdurdod lleol yn pryderu eu bod yn wynebu mynd yn fethdal ac y gallai rhagor o gynghorau fynd yr un ffordd.

Dywed Peter Fox, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr, fod “nifer ar ymyl y dibyn… ac ni allwn barhau i anwybyddu’r sefyllfa – mae’n real iawn, ac mae’n sicr yn tyfu”.

Cododd Peter Fox, oedd yn arwain Cyngor Sir Fynwy cyn ei ethol i’r Senedd yn 2021, bryderon am adroddiadau am gynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

Tynnodd sylw at y ffaith fod tua 140,000 o bobol yn cael eu cyflogi gan gynghorau, wrth iddo holi’r Gweinidog Llywodraeth Leol yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Hydref 16).

Dywedodd Peter Fox fod gweithlu o ryw 480,000 yn y gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys contractwyr preifat, ac y byddai cynnydd o 1% hyd yn oed yn arwain at amcangyfrif o fil o £100m i gynghorau.

‘Twll enfawr’

“Mae cynghorau’n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i bobol Cymru, a bydd pwysau ariannol yn gorfodi cynghorau i drosglwyddo costau i deuluoedd sy’n methu fforddio hynny,” meddai Peter Fox.

Wrth rybuddio bod “twll enfawr” yn agor, awgrymodd Peter Fox y gall fod rhagor o bwysau ar y ffordd yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Hydref 30.

Gofynnodd Aelod Seneddol Mynwy a yw gweinidogion Cymru yn ystyried unrhyw fecanweithiau, megis cyllid gwaelodol, i “atal” methdaliadau posibl cynghorau.

Tynnodd Mike Hedges sylw at y ffaith fod cynghorau Llafur a Cheidwadol yn Lloegr, gan gynnwys Birmingham, ymhlith y cynghorau mwyaf yn Ewrop i wynebu mynd yn fethdal.

“Dydyn ni ddim wedi cael cyngor yn mynd yn fethdal yng Nghymru oherwydd setliad gwell a rheolaeth wleidyddol ac adrannol dda,” meddai cyn-arweinydd Cyngor Abertawe.

“Ond all hynny ddim parhau am byth.”

‘Trychineb’

Cododd Peredur Owen Griffiths, llefarydd llywodraeth leol Plaid Cymru, bryderon am gynlluniau cynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i dorri cludiant ysgol.

“Mae Cyngor Caerffili yn ymgynghori ar yr un peth, heb sôn am doriadau enfawr i lyfrgelloedd,” meddai.

Rhybuddiodd cynrychiolydd Dwyrain De Cymru am drychineb sydd ar ddod, gan ychwanegu y bydd toriadau yn cael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf bregus.

Wrth ymateb ar ran Lywodraeth Cymru, fe wnaeth Jayne Bryant gydnabod yr “heriau anferth” mae cynghorau ar draws Cymru wedi’u hwynebu er blynyddoedd lawer.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, gafodd ei phenodi ym mis Gorffennaf, yn cydnabod fod cynghorau’n cydbwyso gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg yng nghanol y galw cynyddol.

‘Rheng flaen’

Pwysleisiodd nad oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi cyhoeddi hysbysiad adran 114 (methdaliad) gan ddweud, eu bod nhw’n “gweithio’n galed” ac nad ydyn nhw’n “cymryd hynny’n ganiataol”.

Dywedodd Jayne Bryant fod gweinidogion yn datblygu protocol ar y cyd ar gyfer cynghorau rhag ofn y bydd argyfyngau, fydd yn cynnwys opsiynau ond nid arian ychwanegol.

Dywedodd y gweinidog y bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, llais 22 o gynghorau Cymru, yn cyflwyno papur ar bwysau yng nghyfarfod nesaf yr is-grŵp cyllid ar Hydref 22.

Dywedodd wrth y Senedd y bydd llywodraeth leol yn rhan allweddol o gynlluniau gwariant drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26, sydd i’w cyhoeddi ar Ragfyr 10.

“Byddwn yn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen cyn belled ag y bo modd, ac yn parhau i dargedu cefnogaeth at y rhai sydd â’r angen mwyaf,” meddai.