A hithau’n Fis Hanes Pobol Dduon, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu digwyddiadau ar hyd a lled y wlad er mwyn hyrwyddo gyrfa mewn addysg i bobol o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig.

Caiff y digwyddiadau eu cynnal ar y cyd â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, sef y corff sy’n cefnogi pobol ifanc o gefndiroedd lleiafrifol; Cyngor y Gweithlu Addysg; a’r partneriaethau AGA, sy’n darparu hyfforddiant i athrawon ledled Cymru.

Mae’n rhan o ymgyrch gan y Llywodraeth i gynyddu nifer y bobol ym myd addysg sy’n deillio o gymunedau lleiafrifol, ac mae’n adlewyrchu eu strategaeth ehangach ar gyfer Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Ysbrydoli

Bydd y digwyddiadau recriwtio’n gyfle i bobol ifanc glywed gan ddarlithwyr, athrawon ac addysgwyr.

Bydd hefyd yn cynnig cipolwg i’r rheiny sy’n awyddus i sefydlu gyrfa mewn addysg, yn ogystal â’r cyfleoedd ariannu sydd ar gael iddyn nhw.

Dywed Aminur Rahman, Swyddog Recriwtio a Chymorth Cyngor y Gweithlu Addysg, fod gan y digwyddiadau y “nod o ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobol i ymuno â’n gweithlu a’i gyfoethogi”.

Stori Adele

Mae Adele, oedd wedi mynd i un o’r sesiynau blaenorol ac sydd bellach yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i fod yn athrawes, wedi bod yn trafod pwysigrwydd y digwyddiadau.

Roedd hi’n dyheu am gael bod yn athrawes, ond roedd yn wynebu heriau megis diffyg hyder oherwydd cyn lleied o athrawon sydd o dras neu gefndir tebyg iddi.

Ond wedi iddi fynd i un o’r digwyddiadau a chlywed straeon gan addysgwyr eraill o gefndiroedd lleiafrifol, roedd wedi’i hysbrydoli o’r newydd.

“Dw i wir yn credu, taswn i heb fynd i’r digwyddiad TAR, na fyddwn i wedi parhau â’r broses ymgeisio,” meddai.

“Mae fy awydd i addysgu wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gred y gall addysg drawsnewid bywydau. Dw i wedi gweld y gwirionedd hwn drosof fi fy hun.

“Yn ddewr iawn, fe wnaeth fy mam, oedd yn nyrs, symud ein teulu ni i Gaerdydd ac, yn sgil ei dymuniad am addysg, cafodd drysau eu hagor wnaeth ailgyfeirio ein dyfodol.

“Dw i eisiau sbarduno’r newid hwnnw ym mywydau plant, gan ddangos iddyn nhw nad oes yr un freuddwyd yn rhy fawr, na’r un rhwystr yn rhy amhosibl i’w oresgyn.

“Dw i eisiau helpu plant i ddod o hyd i’w cynefin.”

Prinder athrawon o gymunedau lleiafrifol

Yn ôl Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, mae’r digwyddiadau’n cyfrannu at wrthwynebu hiliaeth strwythurol ym maes addysg.

“Gall addysg fynd ffordd bell i fynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a strwythurol sy’n cynnal anghydraddoldeb hiliol,” meddai.

“I wneud hyn, mae’n hanfodol ein bod yn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu.

“Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod gyda ni weithlu sy’n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well, er mwyn cefnogi ein dysgwyr yn well a sicrhau eu bod yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ymhlith y bobol sy’n eu haddysgu.”

Mae athrawon ac addysgwyr o gymunedau lleiafrifol ethnig wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd yng Nghymru o gymharu â’r disgyblion maen nhw’n eu haddysgu.

Fis Tachwedd y llynedd, dim ond 3.2% o staff cynorthwyol, 1.4% o athrawon, a 0.7% o’r rheiny mewn rolau arweinyddol ym myd addysg Cymru oedd yn deillio o gymunedau lleiafrifol ethnig.

Mae hyn o gymharu ag 14.5% o ddisgyblion Cymru dros bump oed o’r un cymunedau ym mis Ionawr 2024.

Strategaeth Cymru Wrth-hiliol

Dywed Llywodraeth Cymru fod y digwyddiadau’n rhan o’u hymdrechion i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

“Fel llywodraeth rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemig a chreu Cymru sy’n wrth-hiliol erbyn 2030,” meddai Lynne Neagle wedyn.

Ymhlith y camau eraill mae’r Llywodraeth wedi’u cymryd sy’n rhan o’r un strategaeth mae gwneud dysgu am hanes pobol a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn orfodol yn y Cwricwlwm.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyflwyno cymhelliant ar gyfer athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol, gan gynnwys hyd at £5,000 i fyfyrwyr cymwys er mwyn medru cwblhau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig ac ennill Statws Athro Cymwysedig.

Yn ogystal, mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, sydd dan orchwyl y Llywodraeth, wedi cyflwyno Gwobr Addysgu Proffesiynol Betty Campbell MBE er mwyn cydnabod gwaith arbennig gan ysgolion i addysgu am gynhwysiant ac amrywiaeth.

Canmol awdur gwyn am ei nofel am y brifathrawes ddu gyntaf

Non Tudur

“Fe allai rhywun du ysgrifennu am fy mam ond fe allan nhw fod â’r wybodaeth anghywir,” yn ôl merch Betty Campbell