Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo o Grŵp Plaid Cymru, sydd wedi “diolch o waelod calon” iddo wrth iddo hefyd gamu o’i rôl yn arweinydd y Cyngor.
Roedd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn dan bwysau yn dilyn cyfweliad â Newyddion S4C ar ôl gwrthod ymddiheuro am helynt Neil Foden, y cyn-brifathro sydd wedi’i garcharu am droseddau rhyw yn erbyn merched.
Fe wnaeth e dro pedol wedyn, gan ymddiheuro’n ddiweddarach, ond fe wnaeth pedwar aelod o’i Gabinet ymddiswyddo yn sgil y sefyllfa.
Troseddau Neil Foden
Ddechrau’r mis, fe wnaeth rhaglen BBC Cymru ddatgelu rhagor o honiadau yn erbyn y cyn-brifathro Neil Foden sy’n awgrymu ei fod e wedi cyflawni troseddau rhyw yn erbyn merched am gyfnod o 40 mlynedd.
Yn sgil tystiolaeth nifer o fenywod, datgelodd BBC Investigates y gall fod pedair gwaith yn fwy o ddioddefwyr na’r disgwyl ynghlwm wrth yr achos.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd am gamdrin pedair merch yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.
Yn ôl y rhaglen, dechreuodd ei droseddau yn 1979, gydag un o’i gyn-ddisgyblion yn dweud eu bod nhw’n cyfathrebu mor ddiweddar â’r diwrnod y cafodd Foden ei arestio.
Clywodd y rhaglen gan dair o fenywod – cydweithiwr a dwy gyn-ddisgybl – sy’n dweud eu bod nhw wedi cael eu camdrin ganddo fe.
Ymddiheuriad
Pan ddaeth ymddiheuriad Dyfrig Siencyn yn y pen draw, fe ymddiheurodd i “bawb sydd wedi dioddef” yn sgil gweithredoedd Neil Foden.
Dywedodd hefyd y byddai’n trafod gyda’i gyd-aelodau ym Mhlaid Cymru, ac yn ystyried ei sefyllfa ei hun dros y penwythnos cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.
Roedd e hefyd wedi dweud ei fod wedi’i “dristhau” bod pedwar aelod o’i Gabinet wedi camu o’u dyletswyddau ddydd Gwener (Hydref 11).
Y pedwar hynny yw Beca Brown (Addysg), Berwyn Parry Jones (Priffyrdd), Dafydd Meurig (yr Amgylchedd), ac Elin Walker Jones (Plant a Phobol Ifanc).
Yn ystod y cyfweliad ag S4C, dywedodd Dyfrig Siencyn nad oedd yn cefnogi galwad aelodau blaenllaw ei blaid am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud mai Adolygiad Amddiffyn Plant fyddai’r ffordd orau o “ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn”.
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth alw ar Dyfrig Siencyn i “feddwl eto ynglŷn â’r cwestiwn” am ymddiheuriad i ddioddefwyr y cyn-brifathro Neil Foden, wrth siarad ar Radio Cymru.
‘Diolch o waelod calon’
“Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd ddoe (dydd Iau, Hydref 16), cynigiodd arweinydd y Grŵp, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ei ymddiswyddiad i’r aelodau,” meddai Cai Larsen, cadeirydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.
“Derbyniwyd ei ymddiswyddiad.
“Hoffai holl aelodau’r Grŵp ddiolch o waelod calon i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith a’i ymroddiad fel arweinydd dros y saith mlynedd ddiwethaf.
“Dymunwn yn dda iddo i’r dyfodol.
“Bydd ethol arweinydd newydd i’r Grŵp yn digwydd, maes o law, yn unol â’n trefn a phrosesau arferol.”
‘Diolch yn fawr iddo’
Mae gwleidyddion lleol Plaid Cymru wedi ymateb i’w ymddiswyddiad, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth dros y blynyddoedd.
Mae Siân Gwenllian (Arfon) a Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) yn cynrychioli Plaid Cymru yn Senedd Cymru, a Liz Saville Roberts yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan.
“Mae Dyfrig wedi rhoi arweiniad cadarn i Gyngor Gwynedd mewn cyfnod o lymder mawr a heriau digynsail,” meddai Siân Gwenllian.
“Er gwaetha’ hynny, mae Cyngor Gwynedd ymhlith y mwyaf blaengar ac uchel ei barch drwy Gymru, gyda llawer o’r diolch am hynny i Dyfrig.
“Dymunaf ddiolch yn hollol ddiffuant iddo am ei ddyfalbarhad a’i weledigaeth gyson dros wella bywydau pobol a chymunedau Gwynedd.
“Rwyf wedi cydweithio efo fo ers 2008, a gwn y bydd yn parhau i wneud ei orau dros y sir a thros Gymru.
“Pob dymuniad da, Dyfrig.”
Mae Liz Saville Roberts wedi diolch i Dyfrig Siencyn gan gyfeirio at ei record mewn grym.
“Mae Dyfrig Siencyn wedi sefyll yn gadarn fel arweinydd Gwynedd yn wyneb heriau aruthrol,” meddai.
“Mae o’n haeddu cael ei gofio fel arweinydd un o gynghorau mwyaf blaengar Cymru.
“Mi aeth i’r afael ag anghenion tai a phroblemau gormodedd o dai gwyliau.
“Yn ystod cyfnod Covid, mi weithiodd Dyfrig yn ddiflino i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor ar gael i drigolion y sir o dan amodau digynsail o anodd.
“Roedd yn lladmerydd cryf dros anghenion cymunedau gwledig yn wyneb agenda llymder Llywodraeth San Steffan.
“Rwyf wedi gweithio gyda Dyfrig ers 2004, ac mi fyddaf yn ei golli’n aruthrol ar lefel bersonol.”
Mae Mabon ap Gwynfor wedi ategu geiriau ei gydweithwyr.
“Diolch o waelod calon i Dyfrig am ei ymroddiad dros y degawdau,” meddai.
“Mae Dyfrig wedi bod wrth galon y Blaid a Gwynedd ers degawdau, ac oherwydd y profiad a’r berthynas yma a fagwyd rhyngddo a phobl Gwynedd llwyddodd i lywio’r Awdurdod drwy gyfnodau hynod heriol, gan roi arweiniad cadarn a phwyllog yr holl amser.
“Pobol a chymunedau Gwynedd, eu lles a’u dyfodol oedd wrth wraidd pob dim yr oedd yn ei wneud.
“Mae ein diolch yn fawr iddo.”
Ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Cyngor hefyd
Ar ôl gadael ei rôl yn arweinydd Grŵp Plaid Cymru, mae Dyfrig Siencyn hefyd wedi ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Cyngor.
“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i arwain Cyngor Gwynedd dros y saith mlynedd ddiwethaf,” meddai mewn datganiad.
“Hoffwn ddiolch o galon i fy nghyd aelodau Cabinet, aelodau etholedig o bob grŵp gwleidyddol ac i staff y Cyngor am eu cyfeillgarwch, eu hymrwymiad a’u gwaith diflino dros bobol a chymunedau’r sir.
“Mawr yw fy niolch hefyd i arweinyddion cynghorau’r gogledd am eu cefnogaeth i fy ngwaith fel cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a Chydbwyllgor Corfforedig y Gogledd.
“Rwy’n talu teyrnged hefyd i fy nghyd-aelodau trawsbleidiol o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am eu hymrwymiad i lywodraeth leol.
“Edrychaf yn ôl gyda balchder ar y gwaith sydd wedi ei wneud yma yng Nghyngor Gwynedd dros y saith mlynedd diwethaf mewn nifer o feysydd.
“Yn benodol, rydym wedi arloesi yn ein gwaith i sicrhau cartrefi i bobl leol a rheoli ail gartrefi o fewn y sir; rydym wedi buddsoddi yn sylweddol mewn adeiladau ysgolion; gwelwyd hefyd sicrhau statws UNESCO i’n ardaloedd llechi, sydd wedi arwain at ddenu arian sylweddol fydd yn dod a llewyrch newydd i’r cymunedau hyn.
“Mae’n bwysig cofio hefyd y gwaith arwrol wnaed gan fyddin o staff o adrannau ardraws y Cyngor, partneriaid o’r trydydd sector, gwirfoddolwyr a chymunedau i gefnogi pobol Gwynedd drwy’r argyfwng Covid.
“Rwy’ hefyd yn falch fod Cyngor Gwynedd wedi cymryd camau cadarn i amddiffyn y bobol mwyaf bregus rhag effeithiau creulon yr argyfwng costau byw tra’n amddiffyn gwasanaethau allweddol rhag y don ar ôl ton o doriadau yn ein cyllidebau.
“Rhaid i mi gydnabod fod y cyfnod mwyaf diweddar hwn – a’r wybodaeth erchyll sydd wedi dod i’r amlwg am weithredoedd anfaddeuol y pedoffeil Neil Foden – wedi bod y mwyaf heriol i’r Cyngor fel awdurdod ac i minnau fel arweinydd.
“Mae’n ddrwg calon gen i am y boen mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd wedi mynd drwyddo oherwydd y dyn hwn, ac maen nhw yn parhau i fod ar flaen fy meddwl.”
‘Llais cryf a chyson’
Mae’r Cynghorydd Beca Roberts, cadeirydd Cyngor Gwynedd, wedi talu teyrnged i Dyfrig Siencyn fel “llais cryf a chyson dros gymunedau Cymraeg a gwledig”.
“Hoffwn dalu teyrnged i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am arwain y Cyngor ers 2017 ac am fod yn lais cryf a chyson dros gymunedau Cymraeg a gwledig yn rhanbarthol ac yn genedlaethol,” meddai.
“Diolch iddo am ei gyfeillgarwch, ei brofiad a’i arweiniad cadarn dros y blynyddoedd.
“Rwy’n siŵr bydd ganddo gyfraniad pellach i’w wneud i waith y Cyngor ac i fywyd cyhoeddus Cymru i’r dyfodol.”
Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, bydd aelodau etholedig yn dewis Arweinydd newydd mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn maes o law.
Yn y cyfamser, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd y Cyngor, yn ymgymryd â dyletswyddau’r arweinydd dros dro hyd nes bod trefniadau parhaol wedi’u gwneud.
Croesawu’r ymddiswyddiad
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r ymddiswyddiad, gan alw am ymchwiliad llawn.
“Dw i’n credu mai’r penderfyniad cywir yw’r ymddiswyddiad hwn,” meddai cyn y cyhoeddiad swyddogol.
“Dylai’r dioddefwyr fod wrth galon yr achos hwn, a bydd eu poen yn aros gyda nhw.
“Rhaid bod yna ymchwiliad llawn i ganfod sut y cafodd Foden gyflawni ei droseddau ofnadwy am gyhyd.”