Bydd rhaglen BBC Cymru, sy’n cael ei darlledu heno (nos Fawrth, Hydref 8), yn datgelu rhagor o honiadau yn erbyn y cyn-brifathro Neil Foden sy’n awgrymu ei fod e wedi cyflawni troseddau rhyw yn erbyn merched am gyfnod o 40 mlynedd.

Yn sgil tystiolaeth nifer o fenywod, bydd BBC Investigates yn datgelu y gall fod pedair gwaith yn fwy o ddioddefwyr na’r disgwyl ynghlwm wrth yr achos.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd am gamdrin pedair merch yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Yn ôl y rhaglen, dechreuodd ei droseddau yn 1979, gydag un o’i gyn-ddisgyblion yn dweud eu bod nhw’n cyfathrebu mor ddiweddar â’r diwrnod y cafodd Foden ei arestio.

Mae’r rhaglen yn clywed gan dair o fenywod – cydweithiwr a dwy gyn-ddisgybl – sy’n dweud eu bod nhw wedi cael eu camdrin ganddo fe.

‘Jo’

Dywed ‘Jo’ ei bod hi wedi cael ei pharatoi gan Neil Foden am bum mlynedd, a hithau’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Friars ym Mangor ar y pryd.

Roedd hi mewn gofal ac yn blentyn bregus.

Dywed fod Neil Foden wedi anfon cannoedd o negeseuon e-bost a thestun ati, “nôl ac ymlaen bob dydd, yn yr ysgol, tu allan i’r ysgol, yn y bore, yn y nos, unrhyw adeg”.

“Roedd o’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n arbennig,” meddai.

“Byddai’n fy nghofleidio, a doeddwn i ddim bob amser eu heisiau nhw, felly byddwn i’n tynnu’n ôl, yna byddai’n fy nhynnu fi’n gryfach… heb reswm, byddai ei ddwylo’n mynd o dan fy siwmper.

“Byddai’n aml yn edrych ar fy mreichiau a fy nghoesau i weld a oeddwn i wedi hunan-niweidio.

“Os oedd o ar fy nghluniau, byddwn i’n aml yn gwisgo sgert, felly byddai’n codi’r sgert i gael edrych arnyn nhw.”

Dywed nad oedd hi’n sylweddoli ei bod hi’n cael ei pharatoi gan Foden tan bod y newyddion ei fod e wedi cael ei arestio wedi torri fis Medi y llynedd.

“Daeth yr heddlu ata’ i… dywedon nhw fod dros ugain o bobol eraill oedd mewn sefyllfaoedd tebyg i mi.”

‘Nia’

Mae’r rhaglen yn clywed gan ddynes arall, ‘Nia’, sy’n dweud ei bod hithau wedi dioddef dan law Neil Foden.

Roedd hi’n un o’i ddisgyblion cyntaf yn Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda yn 1979, a dywed y byddai’n cael ei thargedu pan oedd hi ar ei phen ei hun ag e mewn ystafell.

“Byddai’n dod i’r ddesg, yn sefyll y tu ôl i mi… fel arfer, byddai ei fraich dde yn rhwbio yn erbyn fy mron, ac roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n medru symud,” meddai.

“Yn ferch 13 oed, doeddwn i ddim yn sylweddoli’n union beth oedd yn digwydd.

“Roeddwn i’n ei ofni fo’n ofnadwy; roeddwn i’n fregus yr oedran yna ac yn naïf, ac roedd o’n gwybod hynny”

Dywed nad oedd hi wedi sôn wrth neb ar y pryd gan na fyddai neb yn ei chredu hi.

Ond siaradodd hi â’r heddlu ar ôl i Foden gael ei arestio.

“Mae’r gamdriniaeth hon wedi bod yn digwydd ers degawdau… dydych chi ddim yn deffro’n sydyn yn 2019 ac yn penderfynu bod yn bedoffil,” meddai.

‘Rose’

Bu ‘Rose’ yn cydweithio â Neil Foden tan iddo gael ei arestio.

Dywed ei fod e wedi ymosod yn rhywiol arni yn ystod cyfarfod yn ei swyddfa fis Rhagfyr 2022.

“Roedd o’n bendant yn gwybod sut i fanteisio ar sefyllfaoedd lle roedd pobol yn fregus,” meddai.

Dywed nad oedd hi wedi sôn wrth neb ar y pryd.

Ond ar ôl iddo gael ei arestio, rhoddodd hi ddatganiad i Heddlu’r Gogledd, ac fe gafodd ei gyhuddo. Ond doedd yr honiadau ddim wedi cyrraedd yr achos llys.

Achos llys ac adolygiad

Yn y llys, gwadodd Neil Foden ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Ond cafodd ei garcharu am 17 o flynyddoedd am droseddau rhyw yn erbyn plant.

Dywed Cyngor Gwynedd y byddai adolygiad o’r achos yn “nodi’r gwersi i’w dysgu” er mwyn atal sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol, ac y byddan nhw’n sicrhau bod gan yr adolygiad bob darn o wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Ond dywed ‘Jo’ a ‘Nia’ nad oes neb wedi cysylltu â nhw am yr adolygiad.

Dywed y Bwrdd Adolygiad Arfer Plant nad oedden nhw’n ymwybodol o’r ddwy ddynes hyd nes bod y BBC wedi cysylltu â nhw, ond eu bod nhw’n “llwyr ymwybodol” y gall fod dioddefwyr eraill a’u bod nhw’n awyddus i glywed ganddyn nhw.

Iawndal a chostau

Dywed y gyfreithwraig Kathryn Yates y gallai Cyngor Gwynedd wynebu bil gwerth miliynau o bunnoedd o ganlyniad i geisiadau am iawndal a chostau cyfreithiol.

Mae hi’n cynrychioli dwsinau o bobol all fod wedi dioddef dan law Neil Foden, ac mae hi’n dwyn achos yn erbyn Cyngor Gwynedd ar eu rhan nhw.

“Mae yna gymysgedd o gamdrin rhywiol difrifol, a chamdriniaeth gorfforol ac emosiynol.

“Mae’r cleient cyntaf yn ei 50au, a’r un ieuengaf yn 14… mae’r Cyngor, drwy gysylltiad, yn gyfrifol am weithredoedd eu gweithwyr.

“Mae ei weithredoedd wedi cael effaith ar gymaint o fywydau, yn blant, yn deuluoedd, yn staff… Dw i’n credu y gellid ac y dylid fod wedi ei stopio fo’n gynt o lawer.”

‘Dyletswydd’

Mae Tom Giffard, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru “ddyletswydd i gynnal ymchwiliad llawn”.

“Mae methiant y Cyngor i weithredu ar sail arwyddion cynnar, pryderon staff ac arwyddion parhaus am ymddygiad ysglyfaethus Foden wedi arwain at ganlyniadau ofnadwy, gyda’r dioddefwyr posib yn ymestyn yn ôl dros ddegawdau,” meddai.

“Mae’r ffaith fod Foden wedi gweithredu fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru’n codi cwestiynau difrifol am ba mor drylwyr yw proses wirio Llywodraeth Lafur Cymru.

“A oedden nhw’n ymwybodol o unrhyw un o’r cyhuddiadau gafodd eu gwneud yn erbyn Foden cyn iddo fe ddod yn ymgynghorydd?

“Mae gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ddyletswydd i gynnal ymchwiliad llawn, ac mae gofyn bod camau gweithredu a thryloywder ar unwaith er mwyn sicrhau nad yw’r fath gamdriniaeth erchyll yn digwydd byth eto.”

Bydd BBC Wales Investigates: My Headteacher the Paedophile yn cael ei darlledu ar BBC 1 Cymru a BBC iPlayer heno (nos Fawrth, Hydref 8) am 8.30yh.