Bydd Meleri Davies, fu’n Brif Weithredwr Partneriaeth Ogwen, yn dod yn Brif Weithredwr dros dro ar Galeri Caernarfon fis nesaf.

Mae canolfan gelfyddydol Galeri wrthi’n hysbysebu am Brif Weithredwr parhaol ar hyn o bryd.

Cafodd y cyn-Brif Weithredwr, Steffan Thomas, ei ganfod yn euog o stelcian yn gynharach eleni, ac fe adawodd ei swydd yn Galeri fis Awst.

Roedd wedi’i atal o’i waith ar gyflog llawn fis Ebrill, ar ôl pledio’n euog.

Bu Meleri Davies yn gweithio i Bartneriaeth Ogwen, menter gymunedol yn ardal Bethesda yng Ngwynedd, am dros ddeng mlynedd a bydd hi’n ymuno â Galeri am deuddydd yr wythnos am y chwe mis nesaf.

‘Barod am bennod newydd’

Dywed Meleri Davies fod gadael Partneriaeth Ogwen yn teimlo bron fel cael ei “rhwygo oddi wrth rywbeth sydd wedi bod mor annwyl a phwysig” iddi ers blynyddoedd, ond ei bod hi’n gwybod ei bod hi’n barod am bennod newydd.

Bydd y newid yn golygu ei bod hi’n gallu treulio mwy o amser gyda’i theulu ac yn ysgrifennu, meddai.

Fis Tachwedd, bydd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Rhuo ei distawrwydd hi, yn cael ei chyhoeddi gan Gyhoeddiadau’r Stamp.

“Mae’r math o waith mae pobol yn ei wneud yn y sector gymunedol yn fwy o alwedigaeth nag o yrfa arferol; mae rhywun yn rhoi ei enaid i mewn i’r swydd,” meddai Meleri Davies wrth golwg360.

“Mae gadael hynna, bron rwyt ti’n teimlo dy fod yn rhwygo oddi wrth rywbeth sydd wedi bod mor annwyl a phwysig i chdi am flynyddoedd.

“Ond dw i hefyd yn meddwl ei bod hi’n bwysig bod pobol yn symud ymlaen, a ddim jyst yn dod yn rhan o’r dodrefn mewn sefydliadau, a bod rhywun yn meithrin sgiliau aelodau eraill o’r tîm a chodi eu hyder nhw i arwain hefyd, felly roeddwn i’n teimlo rhwng bob dim ei bod hi’n amser i symud ymlaen.

“Weithiau, dw i’n meddwl fy mod i’n bod yn ddewr; weithiau, dw i’n meddwl fy mod i’n bod yn hollol wallgof.

“Mae o’n deimlad rhyfedd, ac mae o’n wahanol iawn i sut roeddwn i’n teimlo’n gadael swyddi eraill yn y gorffennol.”

Erbyn hyn, mae Partneriaeth Ogwen yn cyflogi ugain o bobol, a dywed Meleri Davies mai creu swyddi Cymraeg da yn yr ardal yw un o’r pethau mae hi’n fwyaf balch ohonyn nhw dros y cyfnod.

Ond o ran prosiectau, Ynni Ogwen yw un o’r pethau mae hi’n fwyaf balch ohonyn nhw.

Mae Ynni Ogwen yn dal y dŵr o Afon Ogwen, yn cynhyrchu trydan ac yn defnyddio’r elw i fuddsoddi yn y gymuned leol.

Bydd Meleri Davies yn parhau’n Gyfarwyddwr Gwirfoddol efo Ynni Ogwen, ac yn gweithio ddiwrnod yr wythnos yn llawrydd yn cefnogi gwaith Partneriaeth Ogwen.

‘Amser i ysgrifennu’

Tair cenhedlaeth o fenywod teulu Meleri Davies yw canolbwynt Rhuo ei distawrwydd hi, ac mae’r gyfrol wedi’i rhannu’n dair.

Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys ymateb Meleri Davies i golli ei mam ddegawd yn ôl, a’i cholli i glefyd niwronau motor oedd y sbardun i ailgydio mewn ysgrifennu.

Eglura fod y cerddi wedi’u hysgrifennu dros y bymtheg mlynedd ddiwethaf, a bod cerdd i Ynni Ogwen yn eu mysg.

“Mae’r ail ran yn edrych fwy ar fy mhrofiadau i’n magu teulu, magu plant ifainc, a chydbwyso hynny efo bywyd gwaith a’r pwysau a’r straen sy’n gallu dod o hynny, a hefyd yr harddwch sydd yna mewn magu plant.

“Mae’r drydedd rhan i’r gyfrol yn fwy cymdeithasol, yn yr ystyr dw i’n edrych ar themâu ehangach megis yr argyfwng hinsawdd. Mae yna gerdd i Ynni Ogwen yn y gyfrol.”

Er bod cerddi Meleri Davies wedi ymddangos yng nghyfnodolyn Ffosfforws gan y Stamp, ynghyd â chyhoeddiadau Poetry Wales a chylchgrawn Modron, hon yw ei chyfrol unigol gyntaf.

“Dw i yn teimlo’n eithaf nerfus yn cyhoeddi cyfrol gyfan o fy ngherddi fy hun.

“Mae’r Stamp wedi bod yn wych; dw i wedi bod yn ysgrifennu ers blynyddoedd maith, ond oherwydd eu hanogaeth nhw dw i wedi cael yr hyder i rannu fy ngwaith a chyhoeddi efo nhw.

“Dw i yn andros o ddiolchgar i Gyhoeddiadau’r Stamp.”

Bydd Rhuo ei distawrwydd hi yn cael ei lansio yng Nghanolfan Cefnfaes ym Methesda ar Dachwedd 23 am 2:30yp.