Bydd taith stadiymau’r Stereophonics yn 2025 yn dod i ben yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

‘Stadium Anthems’ fydd taith fwyaf erioed y band o Gwm Cynon, wrth iddyn nhw ymweld â Belfast (Mehefin 5), Dulyn (Mehefin 6), Cork (Mehefin 7), Huddersfield (Mehefin 14), Glasgow (Mehefin 28), Finsbury Park, Llundain (Gorffennaf 4) a Chaerdydd (Mehefin 12).

Bydd pob gig ar y daith yn cynnwys eu holl ganeuon adnabyddus, gan ddilyn trywydd eu gyrfa fel band hyd yn hyn, yn ogystal â chaneuon oddi ar eu halbwm newydd fydd allan y flwyddyn nesaf.

Dyma’r tro cyntaf ers tair blynedd i’r band fynd ar daith.

Ymhlith eu prif lwyddiannau mae cyrraedd rhif un yn siartiau albyms Prydain wyth gwaith, cyrraedd y deg uchaf ddeuddeg o weithiau, ac unarddeg sengl yn y deg uchaf gan gynnwys eu sengl Rhif 1 ‘Dakota’.

Maen nhw wedi gwerthu mwy na deg miliwn albwm, ac mae eu caneuon wedi’u ffrydio dros 1.5bn o weithiau ar draws y byd.

Maen nhw wedi’u henwebu ar gyfer gwobrau’r Brits bum gwaith, gan ennill un, ac mae’r albwm ‘Decade In The Sun’ wedi troi’n blatinwm bum gwaith drosodd.

Mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi’n fuan pwy fydd yn eu cefnogi nhw ar y daith.

Bydd tocynnau ar werth ar wefan y band, Ticketmaster, Gigs and ToursMy Ticket o ddydd Gwener (Hydref 11).

‘Dw i mor falch o’r band’

“O weld y [Rolling] Stones yn y stadiwm yn 1987 gyda fy mrodyr mawr i chwarae yno wedyn am y pumed tro i bobol Cymru sydd wedi ein dal ni yn eu calonnau yr holl flynyddoedd hyn, mae’n golygu popeth i fi,” meddai’r prif leisydd Kelly Jones.

“Dw i mor falch o’r band a’r bobol oedd wedi ein helpu i gyrraedd fan hyn.

“Mae cael bod allan ar yr heol gyda fy ffrindiau gorau, chwarae’r holl hits o gatalog y band yma, a chael pobol allan mewn cynulliadau awyr agored enfawr drwy gydol haf 2025 yn fy nghyffroi gymaint.”