Mae rhwystredigaeth wedi cael ei lleisio ynghylch yr ansicrwydd parhaus tros leoliad Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf.

Daw hyn yn dilyn honiadau bod cyhoeddi’r lleoliad, oedd i fod i ddigwydd yn ystod digwyddiad yn Nhŷ Pawb yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn (Hydref 5), wedi’i ohirio wrth i’r trafodaethau â pherchennog y tir barhau.

Mae lle i gredu bod tir ger Erddig wedi cael ei ddewis fel y lleoliad sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y dathliad blynyddol o’r Gymraeg a Chymreictod, ond fod trafodaethau cytundebol wedi rhygnu ymlaen yn hirach na’r disgwyl.

‘Siom’

Cafodd y mater ei godi gan Marc Jones, arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam, yn ystod cyfarfod o fwrdd gweithredol yr awdurdod lleol fore heddiw (dydd Mawrth, Hydref 8).

Dywedodd fod pobol wedi’u siomi gan ddiffyg gwybodaeth gan drefnwyr y digwyddiad.

“Roedd digwyddiad da iawn yn Nhŷ Pawb y penwythnos diwethaf oedd wedi rhoi blas o ddiwylliant Cymraeg ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol,” meddai.

“Yn rhan o hynny, roedd disgwyl cyhoeddiad ynghylch lleoliad yr Eisteddfod.

“Mae pobol wir yn edrych ymlaen at ddarganfod ym mle mae hi am fod, ac felly roedd yn dipyn o siom.

“Cafodd rhywfaint o rwystredigaeth ei mynegi i fi ar y diwrnod nad oedd yna gyhoeddiad.

“Dw i’n gwybod fod hyn yn fater i bwyllgor yr Eisteddfod, ond mae gan y Cyngor fewnbwn i hyn, a dw i’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael eglurder arni.

“Dw i’n cael fy ngofyn yn aml beth sy’n digwydd.

“Mae’n hwyr iawn yn y dydd, felly hoffwn i ddiweddariad ar le’r ydyn ni yn nhermau sicrhau bod gennym ni’r lleoliad gorau posib.”

Lleoliadau

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn Wrecsam yn 2011, ar dir fferm oddi ar Ffordd Rhuthun.

Mae lle i gredu bod canol dinas Wrecsam dan ystyriaeth yn flaenorol fel un lleoliad posib ar gyfer y digwyddiad y flwyddyn nesaf, gyda chwe lleoliad wedi’u hasesu i gyd.

Fe wnaeth rhai awgrymu bod lleoliadau wedi cael eu diystyru’n ddiweddarach ar ôl i’r gwasanaethau brys dynnu sylw at y ffaith eu bod nhw’n anaddas.

Dywedodd y Cynghorydd Ceidwadol Hugh Jones, sy’n aelod o’r bwrdd gweithredol ac yn bencampwr y Gymraeg, fod trafodaethau ar y gweill ynghylch y safle sy’n cael ei ffafrio, ond nad oedd modd iddo fe ddatgelu rhagor o wybodaeth am resymau masnachol.

“Drwy gydol y broses, mae ein swyddogion wedi gweithio’n agos iawn ac wedi cefnogi pwyllgor yr Eisteddfod, oherwydd mae hynny o fudd i ni gymaint ag ydy o o fudd iddyn nhw,” meddai.

“Mae’r penderfyniad masnachol yn un i bwyllgor yr Eisteddfod ei wneud, ac mae angen eu bod nhw’n fodlon efo’r trefniadau masnachol.

“Dw i’n ymwybodol o sefyllfa bresennol y trafodaethau, ond o ganlyniad i sensitifrwydd masnachol, byddai’n amhriodol i fi wneud sylwadau oni bai am y ffaith ein bod ni’n parhau i weithio’n agos iawn efo’r pwyllgor.”

Eglurder

Fe wnaeth y Cynghorydd Annibynnol Mark Pritchard, arweinydd y Cyngor, ymuno â’r galwadau am eglurder ar frys ynghylch y lleoliad.

“Rydym oll yn cefnogi’r Eisteddfod,” meddai.

“Mae pawb yn Wrecsam a ledled Cymru yn [cefnogi’r Eisteddfod] oherwydd yr hyn mae’n ei olygu yn nhermau’r diwylliant a’r Gymraeg.

“Y cyfan y byddwn i’n ei ddweud ydy, gorau po gyntaf y caiff cyhoeddiad ei wneud, oherwydd wedyn fe ddaw’n ffordd ymlaen.”