L E M F R E C K yw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024.

Daeth i’r brig am ei albwm Blood, Sweat & Fears, gan gipio’r wobr ariannol o £10,000 am yr albwm orau wedi’i greu yng Nghymru neu gan bobol o Gymru o gwmpas y byd dros y flwyddyn ddiwethaf, mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd neithiwr (nos Fawrth, Hydref 9).

Wedi’i ddylanwadu gan brofiadau’r unigolyn 30 mlwydd oed yn tyfu i fyny yng Nghasnewydd, yn ymgorffori ei wreiddiau fel artist sesiwn efengyl, ei amser fel cynhyrchydd yn y sin grime o dan ddaear, i’w drochiad presennol yn sîn gerddoriaeth lewyrchus de Llundain, mae’r record fuddugol yn llawn dop o fregusrwydd, gonestrwydd a phrofiadau bywyd.

Derbyniodd L E M F R E C K y wobr – y bedwaredd wobr ar ddeg erioed – gan y cyflwynydd Siân Eleri.

“Fi wrth fy modd gyda LEMFRECK yn ennill,” meddai Huw Stephens wrth golwg360.

“Mae’n albwm sbesial, Blood Sweat and Tears, ac mae heno wedi bod yn noson lwyddiannus, dw i’n meddwl.

“Mae wedi bod yn lot o hwyl – lot o amrywiaeth, lot o gerddoriaeth wych, felly rydyn ni wedi joio.

“Mae wastad albyms gwych yn dod ma’s, ac mae hynny’n dangos bod y talent yna, felly dw i’n gobeithio y bydd pobol yn gwrando arnyn nhw nawr!”

Cynrychiolaeth

“Diolch i fy mam a fy nhad – wrth dyfu i fyny fel person du ifanc, roedden nhw wastad yn dweud wrthyf fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth,” meddai L E M F R E C K.

“Mae hwn i fy nghymuned yng Nghasnewydd.

“Os byddwn i heb weld Benji (Webbe sydd ar y rhestr fer gyda’r artist Skindred) yn ei wneud e’n gyntaf, dw i’n dweud wrthoch chi nawr fyddwn i heb allu gwneud hyn, felly hoffwn ddiolch iddo fe.

“Hoffwn drafod pa mor bwysig yw cynrychiolaeth… nid yw’n tic-bocs pan fydd artistiaid fel fi yn ennill gwobrau fel hyn – mae’n gadarnhad o’r gelfyddyd.”

Roedd y rhestr fer o 15 artist hefyd yn cynnwys albwm yr artist reggae Aleighcia Scott Windrush Baby a Skindred, enillydd yr act amgen orau yng Ngwobrau MOBO 2024 am eu halbwm ddaeth yn rhif 2 yn siartiau Smile y Deyrnas Unedig.

Gwobr Ysbrydoliaeth

Yr arloeswyr hip-hop o Gymru, Eric Martin a DJ Jaffa, enillodd y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig, am eu cyfraniadau drwy gydol eu gyrfa i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Mae Eric Martin (gaiff ei adnabod fel MC Eric neu Me One hefyd) yn lleisydd, aml-offerynnwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth o dras Jamaicaidd gafodd ei eni yng Nghymru.

Fe ddaeth i enwogrwydd drwy ei waith i’r act recordio o Wlad Belg, Technotronic, ar ddiwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au, pan gyd-ysgrifennodd y glasur Pump Up The Jam – albwm aml-blatinwm werthodd dros 14 miliwn o gopïau ledled y byd yn ei blwyddyn gyntaf.

Cynhyrchydd yw DJ Jaffa (gaiff ei adnabod hefyd fel Jason Farrell) sy’n byw yng Nghaerdydd ac sydd wedi bod yn DJio ers 1985.

Ymddangosodd ar y sîn yn fuan wedi hynny gydag Eric Martin a’u cymysgeddau reggae a hip-hop.

Mae’r ddau’n cael eu cydnabod yn eang am arloesi’r sîn hip-hop yng Nghymru.

Ymhlith enillwyr blaenorol y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig mae Dafydd Iwan, David Edwards a Pat Morgan (Datblygu), Mike Peters (The Alarm), Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a Meic Stevens.

“Rwy’n teimlo’n ffodus o fod wedi bod yn rhan o sîn hip-hop ifanc a bywiog yng Nghymru. Mae cael fy ngweld fel pwynt y mae’r tameidiau cerddorol presennol yma’n deillio ohono yn anrhydedd. Rwy’n ostyngedig ac yn ddiolchgar,” meddai Eric Martin.

“Mae gweld cymaint o artistiaid o boom bap i drill i pob ffurf o hip-hop yn troi i mewn i rywbeth hardd yn cynhesu fy nghalon,” meddai DJ Jaffa.

“Y llinell waelod yw fy mod i’n caru cerddoriaeth, dw i’n caru DJio, dw i wrth fy modd yn gweld cerddoriaeth ddu yng Nghymru.

“Dyma ein blwyddyn ni.”

Y seremoni wobrwyo oedd y digwyddiad cyntaf fel rhan o Ŵyl Llais eleni hefyd, sy’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.

Roedd Aleighcia Scott, Gruff Rhys, CHROMA, HMS Morris a’r ennillydd L E M F R E C K ymhlith y perfformwyr byw yn y digwyddiad, yn ogystal ag enillwyr gwobr Trisgell; ADJUA, WRKHOUSE a VOYA.

Gwobr Trisgell

Caiff Gwobr Trisgell ei chyflwyno’n flynyddol yn y seremoni i dri artist gyda chefnogaeth yr elusen Help Musicians.

Ei nod yw darparu adnoddau ac arweiniad hollbwysig i artistiaid allu datblygu eu gyrfaoedd cerddorol.

Cyfansoddwr o Gymru/Ghana yw ADJUA, sydd â sain R&B indi/grynj unigryw.

Linford Hydes ac Eddie Al-Shakarchi yw VOYA, ac mae eu cerddoriaeth yn ymgorffori electronica tywyll a steilus, pop-synth melodaidd a cherddoriaeth ton-newydd.

Mae brand WRKHOUSE o bop-alt atmosfferig llawn grooves wedi’u gosod nhw’n gadarn ymhlith y genhedlaeth nesaf o artistiaid cyffrous Cymru.

Caiff y wobr ei chefnogi gan Cymru Greadigol, Cyngor Caerdydd, PRS for Music, PPL a Help Musicians, ac mae’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.

A hwythau newydd fod yn cefnogi’r Foo Fighters ar eu taith ar draws stadiymau dros yr haf, mae’r triawd alt-roc o’r Cymoedd CHROMA wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Sbardun Momentwm PPL.

Caiff y gronfa ei rhedeg gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â PPL a Chymru Greadigol, ac mae’n cynnig grantiau i recordio, teithio a marchnata i artistiaid sy’n torri drwodd i lefel nesaf eu gyrfaoedd.