Mae Kristoffer Hughes, sy’n adnabyddus i lawer fel y comedïwr drag Maggi Noggi ac yn Bennaeth Urdd Derwyddon Môn, wedi teithio i India, Indonesia, yr Unol Daleithiau a Mecsico i brofi sut mae diwylliannau ym mhen draw’r byd yn delio gyda galar a marwolaeth ar gyfer rhaglen arbennig ar S4C.

Mae Kristoffer Hughes wedi treulio 35 mlynedd yn gweithio fel technegydd patholegol yn rhai o farwdai mwyaf Prydain.

Er ei fod yn gyfforddus yn trin a thrafod marwolaeth, mae o wedi bod ar daith ryfeddol dros y flwyddyn ddiwethaf sydd, meddai, “wedi newid fy mywyd, fy safbwynt a’m hagweddau tuag at farwolaeth”.

Fe fu camerâu S4C yn dilyn Kristoffer wrth iddo deithio dramor i brofi sut mae’r  gwledydd yma’n delio gyda galar a marwolaeth.

Bydd holl brofiadau a rhyfeddodau’r siwrne “arbennig, heriol, anghyffyrddus, trawiadol, trawmatig ac anfarwol” i’w gweld yn y gyfres Marw gyda Kris, sy’n dechrau ar S4C heno (nos Iau, 10 Hydref).

Bydd y gyfres Marw gyda Kris yn edrych ar sut mae rhai o ddiwylliannau’r byd yn delio gyda galar a marwolaeth

‘Mae trafod marw yn ‘big no no’ o hyd’

O brofi amlosgi awyr agored a gwesty marwolaeth yn India i ymweld â Gŵyl y Meirw a chwrdd â theulu sydd yn glanhau esgyrn eu hanwyliaid ym Mecsico, rhyfeddu at eirch drud yr Unol Daleithiau, a’r dull newydd o gompostio cyrff, mae’r gyfres yn agor y drws i fydoedd rhyfeddol marwolaeth.

“Dan ni yn y gwledydd gorllewinol yn trafod popeth am ryw erbyn hyn. Ond mae trafod marw yn ‘big no no’ o hyd” meddai Kristoffer.

“Dan ni wedi troi’r profiad o farw yn brofiad meddygol, nid yn brofiad eneidiol, ysbrydol – dan ni wedi trosglwyddo marwolaeth drosodd i bobl broffesiynol sydd erioed wedi bod yn y sefyllfa i ddelio efo beth sy’n digwydd pan ti wedi marw.

“Mae ‘na gymaint y gallwn ni ddysgu oddi wrth ddiwylliannau eraill ac wrth wneud hynny efallai leihau’r ofn y mae marwolaeth yn ei godi ynom ni. Mae o’n brofiad cyffredin i ni gyd, a dwi’n meddwl bod o’n deud gymaint am gymdeithas ac ysbryd cymdeithas sut dan ni’n delio gyda’r peth.

“Ar y daith arbennig yma, dwi wedi profi cynhesrwydd a rhyddid i fynegi galar yn iach ac yn holistig. O’n i’n meddwl byddai dim byd yn agor fy llygaid, ond ges i fy synnu”.

‘Y meirw’n rhan o fywyd byw’

Yn y dyddiau’n arwain at Dia de los Muertos, neu Ddiwrnod y Meirw ym Mecsico, mae’n arferiad blynyddol yng nghymuned Pomuch i lanhau esgyrn eu cyndeidiau marw, yn y gred bod gan y meirw fwy nag un bywyd – rhywbeth, meddai Kris, oedd yn rhoi cysur i’r trigolion:

“I ni, ella bod o’n edrych yn erchyll, yn eithafol, ond iddyn nhw roedd o’n hollol naturiol bod cwmni’r meirw’n rhan o fywyd byw. Roedd plant yn glanhau esgyrn eu Nain heb ddim ofn. Be oedd yn hynod o arbennig oedd bob blwyddyn roedd pawb, dim ots pwy oeddet ti, yn cael caniatâd i drochi eu hunain yn ôl mewn colled a galar ac i gofio’r rheini sydd wedi byw ac wedi dylanwadu arnon ni”.

Compostio cyrff – ‘rhoi bywyd newydd i’r tir’

Profiad arall sydd wedi cael gryn argraff ar Kris oedd ymweliad â’r Natural Organic Production Facility yn Seattle – un o dair canolfan compostio cyrff yn y byd.

“Nathon ni eistedd yng ngardd y ddynes ‘ma o Ogledd Washington, oedd wedi colli’i mab oedd yn 46 oed. Roedd hi wedi compostio’i gorff, ac roedden ni’n bwyta salad roedd ei mab wedi tyfu.

“Mae’i mab hi rŵan yn rhoi bywyd newydd i’r tir. Bob tro roedd hi’n edrych allan ar y coed, llysiau a’r blodau newydd ‘ma, roedd hi’n gweld bywyd roedd ei mab wedi’i roi i’r ddaear. Doedd o ddim yn cymryd dim oddi wrth y ddaear, ond yn rhoi rhywbeth yn ôl iddi.

“Roeddwn i’n meddwl llawer am Dr William Price, y derwydd o’r ddeunawfed ganrif. Diolch iddo fo ddaeth amlosgi’n gyfreithlon ym Mhrydain. Ella bod y byd yn barod am dderwydd arall i ddod â Natural Organic Production i Brydain!”

Bydd Marw gyda Kris yn dechrau heno (nos Iau, 10 Hydref) am 9pm ar S4C

Cynhyrchiad Ffilmiau Twm Twm ar gyfer S4C