Mae Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol wedi cael ei lansio gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) er mwyn helpu pobol yn Gaza a Libanus.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi golygu bod miliynau o bobol wedi ffoi o’u cartrefi, a thros 40,000 o bobol wedi’u lladd ym Mhalesteina.

Ddoe (dydd Mercher, Hydref 16), bu farw chwech o bobol, gan gynnwys y maer, yn nhref Nabatieh yn ne Libanus, yn sgil cyrchoedd awyr gan Israel.

Yn y cyfamser, mae Gweinyddiaeth Iechyd Gaza yn dweud bod ymosodiadau gan Israel wedi lladd 65 o bobol ac anafu 140 ers ddydd Mawrth (Hydref 15).

Yno, mae 90% o’r boblogaeth wedi cael eu dadleoli, yn aml fwy nag unwaith, ac mae bwyd a dŵr glân yn brin iawn.

Yn Libanus, lle mae Israel yn dweud eu bod nhw’n targedu seilwaith y grŵp militaraidd Hezbollah, mae mwy na miliwn o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae DEC yn dod â phymtheg o elusennau cymorth at ei gilydd ar adegau o argyfwng, ac ar hyn o bryd mae 14 o’r elusennau hynny yn gweithredu yn Gaza a Libanus, ac wyth yn y Lan Orllewinol, gan gynnwys y Groes Goch, Oxfam ac Achub y Plant.

Bydd DEC yn monitro’r sefyllfa yn Israel hefyd, medden nhw, ac mae nifer o elusennau DEC yn barod i ehangu eu hymateb i gynnwys y wlad hefyd.

Cafodd pedwar o filwyr eu lladd, a 58 eu hanafu, yn sgil ymosodiadau drônau gan Hezbollah ar un o safleoedd y fyddin yng ngogledd Israel ddydd Sul (Hydref 13).

Mae pryderon y gallai ymateb Israel i ymosodiad diwethaf Iran ar y wlad ar Hydref 1 arwain at ryfel ehangach yn y Dwyrain Canol.

‘Ymateb yn hael’

Dywed Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru, y gallai £50 ddarparu bwyd brys i bum teulu am wythnos, a’u bod nhw’n ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth y gall pobol ei rhoi.

“Rydym wedi gweld dioddefaint dyngarol trychinebus dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae lefelau yr angen ar draws y rhanbarth yn enfawr,” meddai.

“Mae pobol yng Nghymru wedi ymateb yn hael i apeliadau DEC Cymru yn y gorffennol a gobeithiwn y bydd hynny’n wir unwaith eto – bydd hyn yn caniatáu i elusennau DEC a’u partneriaid lleol gefnogi teuluoedd gyda lloches, bwyd a chyflenwadau sylfaenol.”

Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi £100,000 i’r apêl, a dywed Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, fod cyfrannu at yr apêl “yn un o’r ffyrdd gorau o sicrhau cymorth cyflym ac effeithiol” i’r bobol sydd ei angen.

“Mae miliynau o bobol ledled Gaza, Libanus a’r rhanbarth ehangach angen bwyd, lloches a gofal meddygol ar frys,” meddai.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi dweud y byddan nhw’n rhoi arian cyfatebol ar gyfer y £10m cyntaf o roddion gan y cyhoedd i’r apêl.