Fe wnaeth 1.6m yn fwy o bobol deithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru yn ystod gwanwyn 2024 o gymharu â 2023.

Gwelodd y cwmni’r cynnydd mwyaf yn nifer y teithwyr o holl gwmnïau trenau gwledydd Prydain yn ystod y cyfnod – twf o 27%.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 7.6m o deithiau wedi’u gwneud ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Ebrill a Mehefin eleni, o gymharu â chwe miliwn y llynedd.

Canslo llai o drenau

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, roedd cyflwyno 57 o drenau newydd sbon erbyn mis Ebrill eleni, a chyflwyno gwasanaethau ychwanegol ar y llinell o Wrecsam i Bidston a gwasanaeth newydd o Lyn Ebwy i Gasnewydd, ymhlith y rhesymau dros y cynnydd.

Maen nhw hefyd yn dweud bod gwell perfformiad o ran prydlondeb, gwelliant o 8.1%, a dibynadwyedd wedi cyfrannu at y cynnydd.

Rhwng Ebrill a Mehefin eleni, cafodd 3.2% yn llai o drenau eu canslo na’r flwyddyn gynt.

65.1% o drenau Trafnidiaeth Cymru oedd ar amser yn y cyfnod hwn, ac er bod hynny ymhell o fod y gorau ymhlith cwmnïau trenau Prydain, nhw welodd y cynnydd mwyaf o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

4.1% o drenau’r cwmni gafodd eu canslo yn y cyfnod, sy’n uwch na’r cyfartaledd o ryw 3.1% ar gyfer holl gwmnïau’r Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, maen nhw’n cyfeirio at ehangu’r system ‘Talu Wrth Fynd’ yn y de-ddwyrain, cyflwyno tocynnau ‘Advance’ rhatach, ac ailagor llinell Treherbert.

Fe wnaeth digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd – megis cyngherddau Bruce Springsteen, Pink, Foo Fighters a Taylor Swift – gyfrannu at y twf hefyd.

‘Dyfalbarhau’

Dywed James Price, y Prif Swyddog Gweithredol, fod y niferoedd yn dangos bod cynnydd i’w weld mewn llawer o wahanol gymunedau ac “nid dim ond mewn un neu ddwy ardal”.

“Rydym hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o drenau newydd sbon wrth i ni fwrw ymlaen â’n hymrwymiad o £800m i uwchraddio ein fflyd,” meddai.

“Dyfal donc a dyr y garreg yw hi – rydym yn dyfalbarhau er mwyn gwneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru y gorau y gall fod, ac mae’n galonogol gweld mwy a mwy o bobol yn ei ddefnyddio ar gyfer eu bywydau bob dydd.”

Mae rhai o’r llinellau welodd dwf cryf yn cynnwys:

  • Caer-Manceinion/Lerpwl, sydd wedi cyfrannu ychydig yn llai nag 11% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni.
  • Caerdydd-Merthyr, sydd wedi cyfrannu ychydig dros 10% o gyfanswm twf niferoedd.
  • Caer-Birmingham, sydd wedi cyfrannu ychydig yn llai na 10%.
  • Caerdydd-Abertawe, sydd wedi cyfrannu ychydig yn llai nag 8%.
  • Crewe-Caergybi, sydd wedi cyfrannu ychydig yn llai na 6%.