Fe wnaeth bron i bob disgybl Cymraeg Ail Iaith yn Sir Fynwy ennill TGAU yn y pwnc y llynedd.

Dywedodd Sharon Randall-Smith, y swyddog addysg, wrth Gyngor Sir Fynwy bod 95% o ddisgyblion wedi ennill cymhwyster yn dilyn arholiadau haf 2023.

Mae gan Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, sef strategaeth ddeng mlynedd i roi hwb i’r defnydd o’r Gymraeg, darged i gynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Cymraeg wedi’i asesu, ac i gynyddu’r nifer sy’n astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn diwedd cyfnod y cynllun yn 2030.

Gan fod pedair ysgol uwchradd Sir Fynwy yn ysgolion Saesneg eu hiaith, dim ond cyrsiau i ennill cymwysterau ail iaith mae myfyrwyr yn eu dilyn.

Pryderon

Fe wnaeth aelodau o Bwyllgor Craffu Perfformiad y Cyngor fynegi pryderon am y gwymp yn nifer y disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn y pwnc, ynghyd â disgyblion nad ydyn nhw’n parhau i ddysgu’r iaith yn yr ysgol uwchradd.

Fe wnaeth Peter Strong, Cynghorydd Llafur dros Lanfihangel Rogiet ofyn am gynaliadwyedd gwersi Chweched Dosbarth, gan mai dim ond ugain o ddisgyblion o bedair ysgol uwchradd aeth yn eu blaenau i ddilyn y pwnc ar gyfer Uwch Gyfrannol neu Safon Uwch, er bod 95% o fyfyrwyr wedi ennill TGAU Cymraeg.

“Mae hynny’n bryder mawr; mae’n ymddangos i fi’n isel iawn, a sut all prifathrawon fforddio dosbarthiadau mor fach â hynny?

“Byddai pynciau eraill yn ei chael hi’n anodd aros ar yr amserlen ar y lefel honno.”

Dywedodd Sharon Randall-Smith fod y Cyngor a’r ysgol yn hyrwyddo manteision dysgu Cymraeg, a’i bod hefyd yn rhan o raglen addysg ar-lein ‘E-sgol’, lle mae myfyrwyr ledled yr ardal yn astudio ag athro neu athrawes mewn un ysgol.

Mae ganddyn nhw gyfle hefyd i gwrdd wyneb yn wyneb, a dywedodd Will McLean, y Cyfarwyddwr Addysg, fod y cynllun yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pynciau eraill â niferoedd isel o ddisgyblion, a bod pob ysgol uwchradd wedi arwain o ran y gweddill, sef Economeg, Gwyddorau Cyfrifiaduron a Sbaeneg.

Yn eu diweddariad i Lywodraeth Cymru ar dargedau’r cynllun, tynnodd y Cyngor sylw hefyd at bryderon am nifer isel – tua hanner – y disgyblion sy’n symud o Ysgol Y Fenni i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl.

Cafodd pellter teithio ei nodi fel un o’r rhwystrau posib.

Gan fod disgyblion yn mynd i Bont-y-pŵl neu i Ysgol Gwent Is-Coed yng Nghasnewydd ar gyfer addysg uwchradd Gymraeg, mae’r Cyngor yn ei chael hi’n anodd dilyn eu cynnydd, ac maen nhw’n dweud nad yw’n helpu’r sefyllfa fod yr ysgolion mewn dau awdurdod lleol gwahanol ac yn defnyddio systemau gwahanol, ond maen nhw’n mynd i’r afael â hynny.

Ar hyn o bryd, mae 57 o ddisgyblion yn nhri dosbarth derbyn y Cyngor, gan gynnwys yr ysgol egin newydd yn Nhrefynwy, sydd yn is na’r targed o fewn y flwyddyn, sef 69, ond dywedodd Sharon Randall-Smith fod hyn yn golygu bod y Cyngor wedi cyraedd 65% o’u capasiti o ran eu targed ar gyfer 2030.

Cwymp mewn niferoedd yn y Fenni sy’n cael y bai am fethu targedau 2023-24, ond dywedodd Sharon Randall-Smith ei bod hi’n beth cyffredin i gofrestriadau amrywio.

Dydy’r Cyngor ddim yn disgwyl i niferoedd yn Ysgol y Fenni gynyddu hyd nes eu bod nhw’n symud i adeilad newydd mwy o faint.

Fe wnaeth Ysgol y Ffin yng Nghil-y-coed gofnodi eu nifer uchaf erioed o ddisgyblion dosbarth derbyn (25), ac mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu darparu ail “ddosbarth trochi” ar gyfer plant cynradd hŷn sydd eisiau symud at addysg Gymraeg.

Cynnydd mewn niferoedd cynradd

Yn y cyfamser, mae gan ysgol Gymraeg fwyaf newydd Gwent, y cafodd ei hagoriad ei gohirio am flwyddyn pan mai dim ond tri disgybl oedd wedi cofrestru, ugain o ddisgyblion erbyn hyn.

Roedd disgwyl i ysgol gynradd Gymraeg agor ei drysau yn Nhrefynwy fis Medi y llynedd, er gwaetha’r nifer “siomedig” o gofrestriadau, ond cafodd yr agoriad ei ohirio tan fis Medi eleni o ganlyniad i anawsterau wrth recriwtio athro neu athrawes.

Clywodd aelodau o Gyngor Sir Fynwy fod gan Ysgol Trefynwy ugain o ddisgyblion, o’r dosbarth meithrin hyd at Flwyddyn 2, a’u bod yn mynychu’r “ysgol egin” sydd wedi’i lleoli ar hyn o bryd ar dir Ysgol Gynradd Overmonnow.

Mae’r dosbarth yn cynnwys dau ddisgybl yn y dosbarth derbyn blwyddyn gyntaf.

“Mae’r blynyddoedd cyntaf bob amser yn anodd wrth ddechrau ysgol egin,” meddai Sharon Randall-Smith.

“Mae 19 neu 20 yn nifer dda i ddechrau; mae hi bob amser yn cymryd rhywfaint o amser i adeiladu hynny i fyny, ac mae’n fater o adeiladu momentwm.”

Fe wnaeth Steven Garratt, Cynghorydd Llafur Overmonnow, groesawu’r cynnydd, gan ddweud ei fod e “yn y cyfarfod cyntaf i rieni lle mai dim ond un rhiant oedd yno, felly mae’n dipyn o gamp cael 19 yno”.

“Amser cyffrous” i addysg Gymraeg

Cynllun gwreiddiol y Cyngor oedd agor dosbarth lloeren, wedi’i gysylltu ag Ysgol y Ffin yng Nghil-y-coed, fis Medi y llynedd.

Ond gan nad oedd modd recriwtio, bu’n rhaid bodloni ar fodel yr ysgol egin, lle mae bwriad i dyfu fesul blwyddyn bob mis Medi.

Dywedodd Will McLean, y Cyfarwyddwr Addysg, fod gan Ysgol Trefynwy bennaeth “ardderchog” sy’n gweithio o ysgol yng Nghaerffili, ac fe nododd yr ysgol fel enghraifft o gynghorau sy’n cydweithio i gefnogi datblygiad addysg Gymraeg.

Fe wnaeth Martyn Groucutt, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Addysg oedd wedi disgrifio’r cofrestriadau gwreiddiol yn Nhrefynwy fis Ionawr y llynedd fel rhywbeth “siomedig”, groesawu agoriad yr ysgol, gan ychwanegu y bydd ysgol Gymraeg hyna’r sir yn symud i adeilad mwy o faint y flwyddyn nesaf.

“Mae’n amser cyffrous i addysg Gymraeg yn Sir Fynwy,” meddai’r Cynghorydd Llafur.

“Rydyn ni wedi agor ysgol Gymraeg newydd yn Nhrefynwy, ac rydyn ni wedi cyrraedd y camau olaf wrth symud Ysgol Gymraeg Y Fenni i hen safle Deri View i alluogi’r ysgol i dyfu ac i addysg gynradd Gymraeg wireddu ei photensial llawn.”

Gofynnodd y Cynghorydd Steven Garratt a fyddai modd sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg, a dywedodd Rachel Buckler, y Cynghorydd Ceidwadol dros Devauden fod pryder y bydd Ysgol Gwynllyw yn cyrraedd ei chapasiti ac na fyddai modd derbyn disgyblion o Sir Fynwy rhagor.

Dywedodd Will McLean fod trafodaethau ar y gweill gyda Blaenau Gwent, Torfaen a Phowys i ddeall y galw “ar hyd goridor blaenau’r cymoedd”, ond clywodd cynghorwyr fod gan y Cyngor “saith i wyth mlynedd” i gynllunio ar gyfer darpariaeth uwchradd gan fod twf yn Sir Fynwy ar hyn o bryd yn y dosbarth derbyn.

Ar hyn o bryd, mae disgyblion yn mynd i Ysgol Gwynllyw ac Ysgol Gwent Is-Coed yng Nghasnewydd, ac mae’r Cyfarwyddwr Addysg wedi codi pryderon na allai Sir Fynwy sefydlu ysgol uwchradd ar ei phen ei hun.

“Byddai gen i bryderon ynghylch a yw’n ddichonadwy cael un ysgol uwchradd Gymraeg yn Sir Fynwy,” meddai.

“Bydd niferoedd bach ganddi, byddai hi fwy na thebyg yn ysgol pedwar dosbarth nad yw’n fawr iawn, ac rydyn ni’n edrych ar sut allen ni gydweithio ag awdurdodau lleol eraill i sicrhau bod plant yn mwynhau cwricwlwm eang ac amrywiol cyfoethog.”