Mae gwrthwynebiad Plaid Cymru i godi dysglau radar gofodol DARC, a’u hymrwymiad i gynnig yn nodi hynny, wedi’i alw’n “foment hynod arwyddocaol”.

Yn ystod eu cynhadledd yr wythnos ddiwethaf, roedd Plaid Cymru wedi datgan eu bod yn gwrthwynebu cynlluniau’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Fyddin Americanaidd i godi dysglau radar gofodol DARC ym Mreudeth, Sir Benfro.

Ddydd Gwener diwethaf (Hydref 11), fe wnaeth Cynhadledd y Blaid ddewis cymeradwyo cynnig fyddai’n eu hymrwymo i weithredu yn erbyn y cynlluniau.

Mae’r grŵp ymgyrch Parc yn erbyn DARC, sydd wedi bod yn arwain gwrthwynebiad lleol i osod y dysglau, wedi croesawu’r ymrwymiad hwnnw.

Cysylltiad hanesyddol rhwng Plaid Cymru a grwpiau gwrth-radar

Fe wnaeth Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid gyflwyno cynnig brys yn amlinellu’r sefyllfa a’u hawgrymiadau gweithdrefnol yn ystod y gynhadledd.

Roedd y cynnig yn cydnabod cysylltiadau hanesyddol rhwng y Blaid a’r ymgyrch gwrth-radar.

Yn 1990, cafodd ymdrechion tebyg i godi dysglau ar benrhyn Dewisland eu trechu gan gydweithrediad rhwng Plaid Cymru a rhagflaenydd y grŵp Parc yn erbyn DARC presennol.

Roedd y cynnig hefyd yn cyfeirio at wrthwynebiad sylweddol ymhlith cenhedloedd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig at amcan yr Unol Dalieithau i ddominyddu’r gofod gyda’u Llu Gofodol.

Mae’r Blaid a’r grŵp ymgyrchu yn dadlau bod yr amcan honno wrth wraidd y cynllun DARC.

Yn ogystal ag effaith weledol y dysglau, felly, prif bryder y cynnig oedd y byddai’r cynllun yn “clymu Cymru â pholisi tramor UDA”, fyddai’n “tanseilio annibyniaeth Cymru yn y dyfodol yn gyfreithiol, yn strategol ac yn ddiplomyddol”.

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo’n llwyr gan y gynhadledd, gan ymrwymo’r Blaid i “gymryd camau i wrthwynebu awdurdodu ac adeiladu” dysglau radar DARC.

‘Pwnc canolog yn Etholiad 2026’

Dywed llefarydd ar ran Parc yn erbyn DARC fod y newyddion yn cyfrannu at bwysau gwleidyddol aruthrol ar y Blaid Lafur, sydd heb gytuno i gyfarfod â’r grŵp.

Mae’r Blaid Werdd yng Nghymru eisoes wedi datgan eu bod yn cefnogi’r ymgyrch, ac mae’r grŵp yn disgwyl cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd.

“Mae’r tawelwch llwyr gan y Blaid Lafur dros y misoedd diwethaf yn hollol annerbyniol,” meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch.

“Mae gan yr ymgyrch gefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol yma ger Breudeth, ac yn gynyddol ar draws Sir Benfro hefyd.”

Maen nhw’n dweud bod penderfyniad Plaid Cymru’n cynrychioli “cynnydd yn y pwysau [gwleidyddol] fydd yn parhau i dreiddio’r Senedd” wrth i’r ymdeimlad lleol gryfhau.

Mae’r grŵp yn rhybuddio bod “angen i’r Blaid Lafur yng Nghymru ailystyried eu safbwynt ar DARC yn llwyr, neu wynebu colledion anferthol” yn Etholiadau’r Senedd yn 2026.