Mae mwy o bobol yn dod yn berchnogion tai am y tro cyntaf yn sgil cynllun peilot ail gartrefi mewn un rhan o Wynedd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Cyn i’r peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd gael ei gyflwyno yn Nwyfor, dim ond un pryniant drwy gynllun Prynu Cartref oedd wedi’i gwblhau yno mewn pum mlynedd.

Ers i’r cynllun peilot ddod i rym, mae 25 o geisiadau wedi cael eu cymeradwyo.

Mae Prynu Cartref yn gynllun gafodd ei greu i helpu pobol sy’n methu fforddio prynu eiddo, ac mae o fudd arbennig mewn cymunedau mwy gwledig lle mae’n bosib nad oes llawer o gyfleoedd i brynu cartref.

Y cynllun peilot

Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot Dwyfor fel rhan o ystod o fesurau i fynd i’r afael ag effeithiau lefelau uchel o ail gartrefi, a chafodd yr ardal ei dewis yn sgil ei maint a’r crynhoad o ail gartrefi a’r effaith ar y Gymraeg.

Drwy weithio gyda Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhaglen Prynu Cartref yn fwy ymatebol i anghenion yn ardal y cynllun peilot, sy’n cynnwys Pen Llŷn ac Eifionydd.

Mae’r cynllun Prynu Cartref yn gallu helpu drwy fenthyg y gwahaniaeth rhwng pris tŷ a’r hyn mae’r bosib i brynwr ei gael ar ffurf morgais a blaendal, a gall prynu fenthyg rhwng 10% a 50% o werth yr eiddo.

Rhaid i’r prynwr fod â chysylltiad lleol â’r ardal hefyd, a bod ar incwm blynyddol cyfunol o ddim mwy na £60,000.

Mae’r cyllid yn cynnwys buddsoddiad o £8.5m gan Lywodraeth Cymru yn rhan o Beilot Ail Gartrefi Dwyfor.

Tai Teg sydd wedi bod yn gweinyddu’r gwaith ar ran Cyngor Gwynedd, ac mae hynny’n cynnwys casglu gwybodaeth am yr angen am dai drwy sgyrsiau ar lawr gwlad gyda chynghorau cymuned, cymdeithasau a sefydliadau lleol.

“Mae cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor yn parhau i gynnig cyfle gwirioneddol i asesu ystod o ymyriadau radical sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol ffyniannus lle gall pobl fforddio byw a gweithio ynddynt,” meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai.

“Mewn cymuned mor fach a chydag anghenion arbennig Dwyfor, mae hyn yn llwyddiant gwirioneddol ac rwy’n diolch i swyddogion Tai Teg, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru am eu camau rhagweithiol.”