Mae rhai o aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi pryderon ynglŷn â’r ffaith nad oes gan aelodau’r blaid y grym i benderfynu pwy fydd yr ymgeiswyr Ceidwadol yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Mae golwg360 yn deall y bydd Aelodau presennol o’r Senedd bod Aelodau Seneddol Ceidwadol presennol efo’r hawl i wneud cais efo swyddogion o fewn eu hardaloedd nhw am berigloriaeth i sefyll yn yr etholiad Senedd nesaf.
Daeth y mater i’r amlwg fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 16), ar ôl i James Evans, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, alw ar unrhyw un sy’n aelod o’r blaid ac sydd eisiau sefyll i fod yn gadeirydd i beidio sefyll mewn unrhyw etholiadau seneddol.
“Mae’n rhaid i ni fabwysiadu system ‘un aelod, un bleidlais’ er mwyn galluogi democratiaeth wirioneddol sydd yn stopio nifer fach o swyddogion gweithredol rhag gwneud pob dim i fyny tu ôl i ddrysau caeëedig”, meddai ar X (Twitter gynt).
Ond mae nifer o aelodau, gan gynnwys Huw Davies, dirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr yn Nwyrain De Cymru, wedi cyhuddo James Evans o fod yn “rhagrithiol” wrth ddisgwyl i aelodau ymrwymo i hyn, tra bod Aelodau presennol o’r Senedd yn ceisio sicrhau perigloriaeth.
Wrth ddyfynnu James Evans a’r angen am “uniondeb a thryloywder”, gofynnodd Huw Davies a yw’n cytuno â’r egwyddor ‘un aelod, un bleidlais’ ar gyfer “dewis Aelodau o’r Senedd hefyd”.
“Rheolau newydd” ar gyfer “etholaethau newydd”
Dywed Huw Davies fod angen “rheolau newydd” oherwydd bod yna “etholaethau newydd”.
Wrth gyfeirio at yr etholaeth newydd sy’n gweld rhannau o Ddwyfor Meirionydd efo Maldwyn a Glyndŵr, dywed nad yw aelodau a swyddogion gweithredol yn Nwyfor Meirionydd wedi cael cyfle i leisio barn ar enwebiad Russell George.
“Dydi hyn ddim yn deg,” meddai wrth golwg360.
“Ni ddylai’r grŵp presennol gael mynediad ffafriol i ben y rhestr gan fod eu hetholaethau nhw ddim yn bodoli rhagor.
“Mae swyddogion gweithredol fel canran o aelodaeth y Ceidwadwyr Cymreig mor fach, efallai’n llai na 5% o’r aelodaeth.
“I fi, dydi hynny ddim yn deg nac yn gynrychiolaeth gywir o’r aelodaeth ar y cyfan yma yng Nghymru – dylen ni gael mwy o drafodaeth ynglŷn â phwy sydd yn cael eu dewis i redeg.”
Yn ôl Huw Davies, y cwestiwn ddylai gael ei ofyn i’r aelodaeth rŵan ydi “be’ ar wyneb y ddaear ydyn nhw’n ofni?”
“Dyma’r un aelodaeth sydd wedi’u dewis nhw tair blynedd yn ôl, felly be’ ydi’r gwahaniaeth?
“Y teimlad dw i’n cael gan Aelodau o’r Senedd yn y Bae yw eu bod nhw’n ymddwyn mewn ffordd ddiangen, ac i fod yn onest, yn anfaddeuol.”
‘Rhagrith syfrdanol’
Yn ôl Michael Evans, cyn-ymgeisydd Ceidwadol, “mae stitch-ups gweithredol yn ddrwg; mae’n rhaid cael democratiaeth wirioneddol… heblaw pan ydym yn dewis Aelodau o’r Senedd fel y fi.”
“Mae’n werth pwyntio allan fod Aelodau Torïaidd o’r Senedd yn ceisio sicrhau hawliau perigloriaeth ar gyfer unedau etholaethol newydd, mewn system etholaethol newydd.
“Maen nhw eisiau atal aelodau rhag cael dweud eu dweud ar bwy sydd ar frig y rhestrau cynrychiolaeth gyfrannol i’r Senedd, ac wedyn maen nhw eisiau siarad am ‘un aelod, un bleidlais’ yn y cyfarfod blynyddol?
“Rhagrith syfrdanol.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Ceidwadwyr Cymreig.