Mae neges Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dymuno’n dda i reolwr newydd tîm pêl-droed Lloegr wedi codi gwrychyn arweinydd Plaid Cymru.
Daeth cadarnhad fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 16) mai’r Almaenwr Thomas Tuchel fydd yn olynu Gareth Southgate, ac y bydd yn dechrau yn y swydd ar Ionawr 1.
Tuchel yw’r trydydd rheolwr o dramor ar ôl Sven-Goran Eriksson o Sweden a’r Eidalwr Fabio Capello i dderbyn y swydd.
Daw’r penodiad yn dilyn ymddiswyddiad Southgate ar ôl i Loegr golli yn erbyn Sbaen yn rownd derfynol Ewro 2024.
Lee Carsley sydd wedi bod yn gofalu am y tîm dros dro.
Datganiad Syr Keir Starmer
Cafodd penodiad Thomas Tuchel sylw ar ddechrau sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan heddiw.
“Dw i’n gwybod y bydd y Tŷ cyfan yn ymuno â mi wrth ddymuno’n dda i reolwr newydd Lloegr, Thomas Tuchel,” meddai’r Prif Weinidog, sy’n cefnogi Arsenal ac sydd wedi bod dan y lach am dderbyn tocynnau’n rhodd.
“Wna i ddal ei hen swydd [yn rheolwr ar Chelsea] yn ei erbyn, ond dw i’n dymuno’n dda iddo yn ei swydd newydd.”
Craig Bellamy a Chymru
Wrth ymateb i’r datganiad, mae Rhun ap Iorwerth wedi crybwyll nad oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi anfon neges debyg at Craig Bellamy pan gafodd ei benodi’n rheolwr ar dîm Cymru.
“Dywedodd Keir Starmer ei fod yn sicr y bydd Tŷ’r Cyffredin cyfan yn ymuno ag o wrth ddymuno’n dda i reolwr newydd tîm pêl-droed Lloegr,” meddai arweinydd Plaid Cymru ar X (Twitter gynt).
“Dw i’n ceisio cofio a ddywedodd o’r un fath am Bellamy pan gafodd ei benodi’n rheolwr @Cymru fis Gorffennaf.
“Hynny ydy, yn bersonol dw i’n dymuno’n dda i bob hyfforddwr chwaraeon, ond…”