Mae’r mewnwr Gareth Davies wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi ryngwladol.

Daeth ei gêm olaf dros ei wlad wrth iddo arwain Cymru mewn gêm ddi-gap yn erbyn y Queensland Reds ym mis Gorffennaf.

Sgoriodd e 17 o geisiau mewn 77 o gapiau dros Gymru.

Dywed ei fod e wedi gwireddu “breuddwyd plentyn” wrth gynrychioli ei wlad, a’i fod e wrth ei fodd “bob eiliad” yn y crys.

Enillodd ei gap cyntaf yn 2014, gan fynd yn ei flaen i chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd dair gwaith, ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Champ Lawn.

“Bu’n anrhydedd cael cynrychioli Cymru, a gyda’r grŵp cyffrous hwn o chwaraewyr ifainc yn dod drwodd, dw i’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn i fi gamu i ffwrdd o rygbi ryngwladol,” meddai.

Ond bydd yn parhau i chwarae rygbi’n broffesiynol, meddai.

Dywed Warren Gatland, prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol, ei fod e wedi bod yn “chwaraewr gwych i Gymru dros y degawd diwethaf”, a’i fod e “bob amser wedi rhoi popeth yn y crys coch”.

Gyrfa

Dechreuodd Gareth Davies godi drwy rengoedd Academi’r Scarlets yn 2006, ac fe fu’n chwarae i glwb Castell Newydd Emlyn ar ddechrau ei yrfa.

Bu’n chwarae i glwb Lanelli yn Uwch Gynghrair Cymru cyn ymuno â rhanbarth y Scarlets.

Cynrychiolodd e dimau Cymru dan 18 a than 20, gan ennill chwe chap dros y tîm dan 20, ochr yn ochr â Scott Williams a Taulupe Faletau.

Roedd yn brif sgoriwr ceisiau yn y PRO12 yn 2013-14, gan groesi’r gwyngalch ddeg o weithiau, ac fe gafodd ei ddewis ar gyfer taith Cymru i Dde Affrica yr haf hwnnw.

Daeth ei gap cyntaf fel eilydd i Mike Phillips wrth i Gymru golli o 38-16 yn Durban, ac fe ddaeth e oddi ar y fainc dair gwaith wedyn cyn cael ei ddewis ar gyfer Cwpan y Byd yn 2015.

Sgoriodd e ddau gais wrth ddechrau gêm am y tro cyntaf yng ngêm agoriadol Cwpan y Byd yn erbyn Wrwgwai yng Nghaerdydd, gan chwarae ym mhob un o gemau Cymru.

Sgoriodd e bum cais i gyd yn y twrnament, gan gynnwys un wrth guro Lloegr yn Twickenham, a daeth ei geisiau eraill yn erbyn Ffiji a De Affrica wrth i Gymru gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Cafodd ei ddewis ar gyfer y daith i Seland Newydd a Samoa yn 2017, cyn cael ei alw i garfan y Llewod, lle bu’n eilydd ar gyfer y gêm gyfartal 31-31 yn erbyn yr Hurricanes.

Sgoriodd e gais yn rownd derfynol y PRO12 yn erbyn Munster yn 2017, ac fe chwaraeodd e yn y rownd derfynol yn erbyn Leinster y flwyddyn ganlynol.

Dechreuodd e dair gêm Chwe Gwlad wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn yn 2019, gan ddod i’r cae yn eilydd yn y ddwy arall.

Roedd e’n aelod o’r garfan enillodd y Bencampwriaeth yn 2021 hefyd, gan ddechrau tair gêm a dod i’r cae yn eilydd yn y ddwy arall.

Cafodd ei ddewis ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc yn 2023, gan sgorio cais yn y fuddugoliaeth o 40-6 yn erbyn Awstralia.

Sgoriodd e wyth cais i gyd yng Nghwpan y Byd, ac mae’n ail ar restr Cymru y tu ôl i Shane Williams, oedd wedi sgorio deg.