Mae Steve Smith, cyn-gapten tîm criced Awstralia, yn dweud bod dau o fatwyr Morgannwg yn gyfrifol am ei orfodi i symud allan o’i safle arferol wrth fatio i’r tîm cenedlaethol, yn ôl y wefan ESPN Cricinfo.
Yn ôl Smith, roedd Marnus Labuschagne, batiwr tramor presennol y sir Gymreig, ac Usman Khawaja yn “casáu” ei weld e’n agor y batio mewn gemau prawf, a bod hynny wedi ei orfodi fe i ddychwelyd i rif pedwar yn y drefn.
Mae Smith yn mynnu nad oedd e ei hun wedi penderfynu symud i lawr y drefn, ac y byddai wedi bod yn barod i barhau i agor y batio pe bai gofyn iddo fe wneud hynny.
Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf gan George Bailey, prif ddewisydd Awstralia, na fyddai Smith yn agor y batio yn ystod y gyfres yn erbyn India, gan ychwanegu bod y cais wedi dod gan Smith ei hun, a bod y capten Pat Cummins a’r prif hyfforddwr Andrew McDonald wedi gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae Andrew McDonald hefyd wedi ategu mai ei benderfyniad e a Cummins oedd symud Smith i lawr y drefn.
Dywed Smith fod Labuschagne a Khawaja hefyd wedi lleisio’u hanfodlonrwydd fod Smith yn agor y batio.
“O’r sgyrsiau gawson ni ar ôl Seland Newydd, yn enwedig gyda Marnus ac Uzi, roedden nhw’n fy nghasáu i ar y top, a bod yn onest.
“Roedden nhw fy eisiau i tu ôl iddyn nhw.
“Maen nhw’n hoffi’r hyn maen nhw’n ei alw’n ddiogelwch y tu ôl iddyn nhw, mewn ffordd.
“Roedden nhw’n teimlo’n eithaf cryf na ddylwn i [agor y batio], felly roedd hynny’n rhan fawr o’r peth.
“Dw i ddim yn mynd i fod yn agor haf yma, a dyna ni.”