Mae’r bachwr Dewi Lake wedi’i enwi’n gapten ar dîm rygbi Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Bydd tîm Warren Gatland yn herio Ffiji (Tachwedd 10), Awstralia (Tachwedd 17) a De Affrica (Tachwedd 23) yn ystod y gyfres yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Bydd y garfan yn ymgynnull ddydd Llun nesaf (Hydref 28) i ddechrau eu paratoadau.

Roedd Lake yn gapten ar gyfer y daith i Awstralia dros yr haf.

Mae dau chwaraewr heb gap yn y garfan, sef y chwaraewr ail reng Freddie Thomas o Gaerloyw a Blair Murray, asgellwr y Scarlets.

Mae Adam Beard, Ryan Elias, Jac Morgan, Will Rowlands, Henry Thomas a Tomos Williams yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anafiadau a chyfnodau o orffwys oedd wedi eu cadw nhw allan o’r daith i Awstralia.

Hefyd yn dychwelyd i’r garfan mae Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Tom Rogers, Nicky Smith a Rhodri Williams.

Dywed Gatland fod y garfan yn “edrych ymlaen at yr heriau” fydd pob gwrthwynebydd yn eu gosod i Gymru yn ystod y gyfres, ac mae e wedi canmol y cefnogwyr am eu “hangerdd a’u hegni”.

Ychwanega fod Dewi Lake “wedi gwneud gwaith da iawn” yn gapten yn Awstralia.


Carfan Cymru

Blaenwyr

Keiron Assiratti (Rygbi Caerdydd), Adam Beard (Gweilch), James Botham (Rygbi Caerdydd), Ben Carter (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Archie Griffin (Caerfaddon), Dewi Lake (Gweilch, capten), Evan Lloyd (Rygbi Caerdydd), Kemsley Mathias (Scarlets), Jac Morgan (Gweilch), Taine Plumtree (Scarlets), Tommy Reffell (Caerlŷr), Will Rowlands (Racing 92), Nicky Smith (Caerlŷr), Gareth Thomas (Gweilch), Freddie Thomas (Caerloyw), Henry Thomas (Scarlets), Christ Tshiunza (Caerwysg), Aaron Wainwright (Dreigiau)

Olwyr

Gareth Anscombe (Caerloyw), Ellis Bevan (Rygbi Caerdydd), Sam Costelow (Scarlets), Rio Dyer (Dreigiau), Mason Grady (Rygbi Caerdydd), Josh Hathaway (Caerloyw), Eddie James (Scarlets), Max Llewellyn (Caerloyw), Blair Murray (Scarlets), Tom Rogers (Scarlets), Ben Thomas (Rygbi Caerdydd), Nick Tompkins (Saracens), Owen Watkin (Gweilch), Rhodri Williams (Dreigiau), Tomos Williams (Caerloyw), Cameron Winnett (Rygbi Caerdydd)