Bydd y Gymraes Sophia Smale yn chwarae i Glwb Criced Essex y tymor nesaf.

Mae Essex ymhlith yr wyth sir fydd yn cychwyn cystadleuaeth newydd sbon y tymor nesaf.

Bydd gan Forgannwg dîm menywod ar gyfer tymor 2026.

Mae Smale, troellwr llaw chwith 19 oed o Gasnewydd, wedi chwarae i’r Western Storm ers 2022, gan gipio 44 o wicedi mewn gemau ugain a 50 pelawd.

Cynrychiolodd hi dimau ieuenctid Cymru cyn mynd yn ei blaen i gynrychioli Cymru’n ddomestig.

Mae hi hefyd wedi chwarae i’r Oval Invincibles yng nghystadleuaeth y Can Pelen, ac wedi cynrychioli tîm Lloegr dan 19 oed.

Dywed ei bod hi’n teimlo “gwefr” o gael ymuno ag Essex, a’i bod hi’n “methu aros i gael dechrau ar y bennod nesaf yn fy nhaith”.