Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi derbyn ymddiheuriad gan Glwb Pêl-droed Gillingham yn dilyn achos honedig o hiliaeth yn ystod y gêm rhwng y ddau dîm neithiwr (nos Fawrth, Hydref 22).

Dywed Gillingham eu bod nhw “wedi ffieiddio” yn sgil yr hiliaeth wynebodd y golwr Nick Townsend gan un o’u cefnogwyr, sydd bellach wedi cael ei adnabod ganddyn nhw.

Mae Townsend yn cynrychioli tîm cenedlaethol Antigua a Barbuda.

Dywed Gillingham eu bod nhw’n cydweithio â’r heddlu ar y mater, ynghyd â’u tîm diogelwch eu hunain.

Mae disgwyl i’r cefnogwr gael gwaharddiad rhag mynd i stadiwm Gillingham pe bai modd profi’r honiad.

Dywed Gillingham nad ydyn nhw’n goddef hiliaeth.