Roedd buddugoliaeth hanesyddol arall i dîm pêl-droed y Seintiau Newydd neithiwr (nos Iau, Hydref 24), wrth iddyn nhw guro Astana o 2-0 yng Nghyngres Europa.

Sgoriodd Rory Holden â’i ben yn yr hanner cyntaf, cyn i Declan McManus sgorio o’r smotyn yn yr ail hanner.

Mae tîm Craig Harrison bellach yn bedwerydd ar bymtheg yn y gynghrair ar drothwy eu gêm nesaf yn erbyn Shamrock Rovers ymhen pythefnos.

Sicrhaodd arbediad Connor Roberts yn y gôl i’r Seintiau Newydd nad oedd y tîm o brifddinas Kazakhstan wedi mynd ar y blaen yn gynnar yn y gêm, ond gallai’r tîm Cymreig fod wedi rhwydo funudau’n ddiweddarach wrth i McManus ergydio o fewn y cwrt cosbi.

Tarodd Astana y bêl dros y trawst yn fuan ar ôl 30 munud, ond daeth gôl gynta’r Seintiau Newydd bum munud cyn yr egwyl, gyda gwrthymosodiad yn arwain at groesiad Jordan Williams i mewn i’r cwrt cosbi, wrth i Holden daro ergyd bwerus â’i ben i’r rhwyd.

Gallen nhw fod wedi dyblu’u mantais ar ddechrau’r ail hanner, wrth i Josh Daniels ergydio dros y trawst o’r cwrt cosbi, a bu’n rhaid i golwr Astana arbed ergydion gan Dan Williams a McManus.

Daeth cyfleoedd i Astana ar ôl 55 munud, wrth i Nnamdi Ahanonu ergydio heibio’r postyn o’r tu allan i’r cwrt cosbi, cyn i Elkhan Astanov yrru ergyd dros y trawst.

Tarodd Ahanonu ergyd arall at y golwr, cyn iddo wyro’r bêl at y postyn, a gwnaeth Roberts arbediad pwysig arall yn fuan wedyn.

Ond daeth ail gôl y Seintiau Newydd ar ôl 77 munud i gau pen y mwdwl ar y fuddugoliaeth, wrth i McManus sgorio o’r smotyn ar ôl i chwaraewr Astana lawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf tîm ddomestig o Gymru yn un o gystadlaethau UEFA, a bydd y Seintiau Newydd bellach yn troi eu sylw at y gêm oddi cartref yn Aberystwyth ddydd Sul (Hydref 27).