Mae tristwch wedi cael ei fynegi gan gynghorwyr nad oedd anrhydedd fwyaf Blaenau Gwent wedi’i rhoi i’r seren snwcer Ray Reardon tra ei fod yn dal yn fyw.

Fis diwethaf, cytunodd cynghorwyr Blaenau Gwent i roi rhyddfraint y fwrdeistref sirol i Ray Reardon ar ôl ei farwolaeth, ar ôl iddyn nhw gymeradwyo enwebiad gan weithgor y Cyngor.

Mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor ddoe (dydd Iau, Hydref 24), fe wnaeth cynghorwyr ymgynnull i gytuno ar yr anrhydedd “i gydnabod cyfraniad mawr Ray a’i gampau ym myd snwcer proffesiynol, nid yn unig yn Nhredegar a Chymru ond yn fyd-eang”.

Er mwyn cymeradwyo’r enwebiad, roedd yn rhaid i ddau draen o gynghorwyr – 22 allan o 33 – bleidleisio o’i blaid.

‘Rhoi yn ôl i’r gymuned’

“Dw i’n llwyr gefnogol,” meddai’r Cynghorydd Wayne Hodgins, arweinydd Grŵp Annibynnol yr wrthblaid.

“Roedd yn hirddisgwyliedig, ac yn anffodus mae’r gŵr bonheddig wedi marw.”

Roedd e’n cofio sut y chwaraeodd Ray Reardon ei ran wrth boblogeiddio snwcer fel camp i’w gwylio, a hynny’n rhan o gystadlaethau Pot Black gafodd eu dangos ar y teledu yn y 1970au.

“Fe wnaeth e dynnu sylw ati,” meddai’r Cynghorydd Wayne Hodgins.

“Mae’n hollol hirddisgwyliedig,” meddai’r Cynghorydd Annibynnol Jonathan Millard.

“Dyn Tredegar i’r carn oedd e, ac yn rhywun oedd wedi rhoi yn ôl i’r gymuned.”

‘Siomedig’

“Mae’n dda gweld hyn yn cael ei wneud, ond dw i’n siomedig gan y dylen ni fod wedi ei wneud e flynyddoedd yn ôl pan oedd e’n dal yn fyw,” meddai’r Cynghorydd Llafur Derrick Bevan.

“Roedd e’n un o’n harwyr pan oedden ni’n blant.

“Byddai Ray yn chwarae lan yn y Stiwt yng Nglynebwy, a phe bai unrhyw un yn cipio cwpwl o bwyntiau oddi arno fe, roedden ni’n meddwl bod hynny’n wych.

“Roedd e wir yn gymeriad.”

“Roedd e’n bencampwr gwych a hefyd yn hyfforddwr arbennig, ac fe aeth yn ei flaen i hyfforddi pencampwyr byd y dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Annibynnol George Humphreys.

Pleidlais unfrydol

Fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio’n unfrydol dros gefnogi’r enwebiad.

“Bydd seremoni fach i gyflwyno sgrôl rhyddfraint y fwrdeistref i deulu Ray yn cael ei chynnal yn y Swyddfa Gyffredinol,” meddai’r Cynghorydd Llafur Llywyddol Chris Smith.

Roedd e’n credu y byddai’n cael ei chynnal yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bywyd a gyrfa

Wedi’i eni yn Nhredegar yn 1932, gweithiodd Ray Reardon fel glöwr ac fel plismon.

Enillodd e chwe Phencampwriaeth Snwcer Amatur Cymru yn y 1950au, ac fe aeth yn ei flaen i ennill Pencampwriaeth Amatur Lloegr yn 1964, cyn troi’n broffesiynol yn 1967.

Enillodd e Bencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf yn 1970, ac fe ddominyddodd yn ystod y 1970au, gan ennill pum Pencampwriaeth Byd arall, yr olaf ohonyn nhw yn 1978 pan oedd yn 45 oed.

Yn 2016, cafodd y tlws sy’n cael ei roi i enillydd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ei ailenwi’n Dlws Ray Reardon er cof amdano.

Bu farw’n 91 oed ar Orffennaf 19.