Mae tîm pêl-droed merched Cymru’n herio Slofacia oddi cartref yn Poprad heddiw (dydd Gwener, Hydref 25) yng nghymal cyntaf rownd gyntaf gemau ail gyfle Ewro 2025, gyda’r gic gyntaf am 4.30yp.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru gyrraedd gemau ail gyfle’r Ewros, ar ôl iddyn nhw golli allan yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd 2023 gyda cholled yn erbyn y Swistir.

Fe wnaeth Cymru orffen ar frig Grŵp B4, gan gymhwyso ar gyfer Cynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd y tymor nesaf, ar ôl iddyn nhw fod yn ddi-guro mewn chwe gêm, gyda phedair buddugoliaeth.

Fe wnaeth Slofacia ostwng i Gynghrair C.

Edrych tua’r dyfodol, nid y gorffennol

Er gwaetha’r siom yn erbyn y Swistir pan oedd Gemma Grainger wrth y llyw, mae Rhian Wilkinson yn gobeithio y bydd ei thîm yn edrych tua’r dyfodol wrth iddyn nhw gael cyfle arall i gymhwyso ar gyfer twrnament.

Dywed fod rhaid iddyn nhw “edrych ar hon fel y gêm nesaf o’n blaenau”, a bod y tîm yn “ddigon da” i ennill.

Bydd enillwyr y gêm yn herio naill ai Georgia neu Weriniaeth Iwerddon fis nesaf am le yn y rowndiau terfynol yn y Swistir haf nesaf.

Bydd yr ail gymal yn erbyn Slofacia yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth (Hydref 29, 7.15yh).

Anafiadau

Mae Sophie Ingle allan o hyd wrth iddi barhau i wella o anaf i’r gewyn croesffurf anterior (ACL).

Ond mae Jess Fishlock yn ddigon iach i gael ei chynnwys ar ôl bod yn dioddef o anaf i’w choes sydd wedi ei chadw hi allan dros yr wythnosau diwethaf.

Hon fydd gêm gyntaf Angharad James wrth y llyw ers iddi gael ei phenodi’n gapten parhaol, gyda Ceri Holland a Hayley Ladd yn is-gapteniaid.