Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro i “bawb sydd wedi dioddef” yn sgil gweithredoedd y troseddwr rhyw Neil Foden.

Roedd pwysau ar y Cynghorydd Dyfrig Siencyn wedi iddo wrthod ymddiheuro mewn cyfweliad â Newyddion S4C ddoe (dydd Iau, Hydref 10).

Dywed hefyd y bydd yn trafod gyda’i gyd-aelodau ym Mhlaid Cymru, ac yn ystyried ei sefyllfa ei hun dros y penwythnos cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

Mae Dyfrig Siencyn hefyd yn dweud ei fod wedi’i “dristhau” bod pedwar aelod o’i Gabinet wedi camu o’u dyletswyddau heddiw (dydd Gwener, Hydref 11).

Y pedwar hynny yw Beca Brown (Addysg), Berwyn Parry Jones (Priffyrdd), Dafydd Meurig (yr Amgylchedd), ac Elin Walker Jones (Plant a Phobol Ifanc), yn ôl Peter Gillibrand, sy’n newyddiadurwr gyda’r BBC.

Yn ystod y cyfweliad neithiwr, dywedodd nad oedd yn cefnogi galwad aelodau blaenllaw ei blaid am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud mai Adolygiad Amddiffyn Plant fyddai’r ffordd orau o “ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn”.

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth alw ar Dyfrig Siencyn i “feddwl eto ynglŷn â’r cwestiwn” am ymddiheuriad i ddioddefwyr y cyn-brifathro Neil Foden, wrth siarad ar Radio Cymru fore heddiw.

Ac fe fu arweinydd Plaid Cymru’n siarad â golwg360 yng nghynhadledd Plaid Cymru ar ôl i’r newyddion am y pedwar cynghorydd dorri, gan bwysleisio “nad ydi’r hyn sy’n digwydd fel ymateb i’r sefyllfa erchyll a gweithredoedd ffiaidd y pedoffil ddim byd i wneud â chynhadledd Plaid Cymru”.

“Mae o i wneud efo be’ ydan ni angen ei wneud i weithredu er mwyn y dioddefwyr,” meddai.

“Mae o’n glir yn fy meddwl i ein bod ni’n gytûn fel Plaid fod rhaid dod o hyd i’r atebion – be’ sydd wedi mynd o’i le? Sut bod hyn wedi gallu digwydd?

“A dim ond ar y dioddefwyr yna mae fy sylw i, ar ddiwrnod cynhadledd, y diwrnod cyn, a’r diwrnod ar ôl.”

Gofynnodd golwg360 iddo a ydy o wedi’i siomi gan Dyfrig Siencyn.

“Be’ sy’n siomi fi ydi bod yna ferched wedi cael eu cam-drin gan y pedoffil, a’n bod ni ddim yn gwybod eto be’ aeth o’i le, a’n bod ni wirioneddol angen gyrru ymlaen i ffeindio allan yr atebion fel bod hyn ddim yn gallu digwydd eto.”

‘Ymddiheuro’n ddiffuant’

Mewn datganiad, dywed Dyfrig Siencyn bellach ei fod yn “ymddiheuro yn ddiffuant i bawb sydd wedi dioddef oherwydd gweithredoedd y troseddwr rhyw Neil Foden”, ac yr hoffai “roi gwarant i bobol Gwynedd, ac yn arbennig i’r dioddefwyr” ei fod e a’i gyd-gynghorwyr yn benderfynol o “droi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le er mwyn sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto”.

“Ategaf yr hyn rwyf wedi ei ddweud yn barod, sef fod dioddefwyr Neil Foden yn parhau i fod yn ein meddyliau i gyd a bod dysgu gwersi o hyn oll yn brif flaenoriaeth i mi ac i Gyngor Gwynedd,” meddai.

“Cadarnhaf fy mod wedi gofyn am adolygiad annibynnol trylwyr o holl brosesau mewnol y Cyngor yn y maes hwn, i gyd redeg â’r Adolygiad Ymarfer Plant statudol, sy’n gwbl annibynnol o’r Cyngor, ac sydd eisoes ar waith.

“Bydd yr adolygiad annibynnol hwn o brosesau’r Cyngor yn dechrau cyn gynted â phosib a byddwn yn gweithredu’n syth ar unrhyw argymhellion a ddaw ohono.

“Yn ogystal, yng ngolau’r honiadau pellach am Neil Foden ar raglen y BBC yr wythnos hon, rwyf yn cefnogi’r alwad am Ymchwiliad Cyhoeddus.

“Rwyf wedi fy nhristau gan y newyddion fod pedwar o fy nghyd-aelodau Cabinet wedi datgan heddiw eu bod yn camu i lawr o’u dyletswyddau.

“Hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr a’u gwaith diflino dros bobol a chymunedau Gwynedd.

“Dros y penwythnos byddaf yn trafod gyda fy nghyd aelodau ac yn ystyried fy sefyllfa fy hun, cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.”

Cafodd Dyfrig Siencyn ei gyfweld ar raglen Newyddion S4C ar ôl i ragor o honiadau gael eu gwneud am y pedoffeil Neil Foden, sydd wedi cael ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol rhwng 2019 a 2023.

Roedd Neil Foden wedi bod yn bennaeth yn Ysgol Friars ym Mangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, a’r wythnos hon fe wnaeth BBC Wales Investigates ddatgelu y gallai fod wedi cam-drin disgyblion am dros 40 mlynedd.

Cafodd honiadau’n mynd yn ôl i 1979 eu gwneud gan ddwy ddynes sy’n dweud bod yr heddlu wedi dweud wrthyn nhw bod hi’n bosib bod hyd at 20 o ddioddefwyr.

Galwadau am ymchwiliad cyhoeddus

Mae cynrychiolwyr o Blaid Cymru, gan gynnwys yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts a Beca Brown, fu’n aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros addysg tan heddiw, wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus.

Fodd bynnag, dywedodd Dyfrig Siencyn ddoe mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant fyddai’r ffordd gyflymaf i ymdrin â’r mater, ac y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd blynyddoedd.

“Ond os oes yna ymchwiliad cyhoeddus, os oes yna benderfyniad i gael un, fyddwn ni’n croesawu fo,” meddai.

Fe wnaeth gydnabod bod cwestiynau i’w hateb, a’i fod yn hyderus y byddan nhw’n cael eu hateb drwy’r Adolygiad Amddiffyn Plant.

“Ac os oes yna rywbeth wedi mynd o’i le ar ein prosesau ni, gweithredu arnyn nhw, ac os oes yna unrhyw un o swyddogion y cyngor, fyddwn ni yn delio â hynny yn y ffordd arferol,” meddai Dyfrig Siencyn wrth Newyddion S4C.

“Does dim amheuaeth am yr angen i fynd i wraidd y broblem yma ac fel dwi wedi dweud ar sawl achlysur, mi fyddwn ni’n troi pob carreg posib i ganfod atebion.”

“Os bydd unrhyw fai ar y cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro.”

Rhaglen BBC Cymru’n datgelu rhagor o honiadau yn erbyn Neil Foden

Mae’r cyn-brifathro wedi’i garcharu am 17 o flynyddoedd am droseddau rhyw gafodd eu cyflawni rhwng 2019 a 2023