Mae pobol ifanc mewn gofal yn cefnogi cynlluniau i wneud hi’n amhosib i gwmnïau elwa o ofal plant, ond yn poeni y bydd llai o gwmnïau’n cynnig gofal.

Dan Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu atal darparwyr preifat rhag gallu gwneud elw wrth ddarparu gofal i blant a phobol ifanc.

Er bod un o bwyllgorau’r Senedd, ynghyd â phobol ifanc, yn cefnogi’r egwyddorion, mae ganddyn nhw bryderon.

Dywed y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bod angen i gwmnïau sy’n darparu gofal ar y funud gael cynnig manwl o ganllawiau a chymorth gan Lywodraeth Cymru os ydyn nhw am gael eu denu i symud i fodel nid-er-elw.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n dweud bod angen i awdurdodau lleol gael ymrwymiad clir o ran cyllid ar gyfer y bum mlynedd nesaf o leiaf.

Poeni am gwmnïau’n rhoi’r gorau i gynnig gofal

Heb y sicrwydd, mae’r pwyllgor o Aelodau’r Senedd yn poeni mai’r rhai mwyaf agored i niwed fydd yn teimlo effeithiau gwaethaf y newid.

“Rwy’n cytuno â’r Bil, rwy’n cytuno’n llwyr, ond fy mhryder mwyaf, os bydd yn cael ei atal, yw bod yr holl gwmnïau hyn yn mynd i roi’r gorau i gynnig gwasanaeth a symud rhywle arall yn y pen draw, gan nad ydyn nhw bellach yn gallu gwneud elw oddi wrthym ni, ac mae hynny’n mynd i achosi llawer o broblemau i’r holl blant sy’n cael gofal gan yr holl gwmnïau gwahanol hyn,” meddai Rowan Gray, fu’n siarad gyda’r pwyllgor gyda chefnogaeth Voices from Care Cymru.

Nid yw bobol ifanc bob amser yn gwybod ai lleoliad er elw neu leoliad nid-er-elw y maen nhw ynddo, a dywedon nhw wrth y pwyllgor eu bod nhw eisiau cael eu trin fel petaen nhw’n perthyn ac nid cael “eu hysbysebu gyda phris”.

“Mae angen lleoliad arnon ni lle rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu ei alw’n gartref, ein bod ni’n gallu ymddiried yn y gofalwyr maeth, ein bod ni’n gallu datblygu’r berthynas yna gyda nhw, ac mae hyd yn oed gallu cael cofleidiau ar leoliadau maeth yn hynod bwysig, oherwydd mae angen i ni ddysgu meithrin perthynas iach o’n cwmpas,” meddai Joanne Griffith.

‘Realiti ddim yn hawdd na syml’

Er eu pryderon, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn argymell bod y Senedd yn cefnogi’r Bil pan fydd yn wynebu pleidlais ar Hydref 22.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad craffu yn nodi 26 o argymhellion sy’n tynnu sylw at “heriau sylweddol” wrth weithredu’r Bil.

“O’r dystiolaeth a glywsom ni gan bobol ifanc, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol, mae rhywfaint o bryder ynghylch y newidiadau mawr a gynigir yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol,” meddai Russell George.

“Er bod y mwyafrif yn cefnogi’r egwyddor o symud i system ddi-elw, nid yw realiti’r cyfnod pontio yn hawdd nac yn syml.

“Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at bryderon y rhai sy’n gweithio mewn system sydd eisoes dan bwysau, a lleisiau pobol ifanc sy’n gwybod sut brofiad yw bod mewn sefyllfa lle mae angen cymorth.

“Fe wnaethon nhw ddweud yn glir wrthym ni beth maen nhw ei eisiau – cael eu trin â pharch, aros yn agos at bobol maen nhw’n eu hadnabod, a bod gyda phobl sy’n gofalu amdanyn nhw fel petaen nhw’n perthyn. Rhaid peidio â pheryglu hyn.

“Mae mwy nag un plentyn ym mhob cant o blant yng Nghymru bellach mewn gofal.

“Rhaid i’w hanghenion nhw fod yn ganolog i unrhyw broses ddiwygio sy’n mynd drwy’r Senedd.

“Er bod yr uchelgais yn glir, nid yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud iddo weithio yn glir.”

‘Plant ddim eisiau cael eu trin fel nwyddau’

Wrth siarad â golwg360 ychydig wythnosau’n ôl, fe wnaeth Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Cymru bwysleisio pwysigrwydd dod â gor-elwa ar ofal plant o fewn y sector preifat i ben.

Dywed Dawn Bowden fod plant wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru nad ydyn nhw eisiau cael eu gwthio o gwmpas y system fel “nwyddau”.

Mae darparwyr gofal plant preifat yng Nghymru wedi gwneud elw o hyd at 23% ar yr hyn maen nhw’n ei dalu i gynnig y gwasanaeth.

Dywed Dawn Bowden fod hyn wedi cynyddu costau gofal plant preswyl o £65m y flwyddyn yn 2017-18 i £200m eleni.

Y disgwyl yw y bydd y Bil yn dod yn ddeddfwriaeth erbyn diwedd tymor presennol y Senedd yn 2026.

‘Ymateb maes o law’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n diolch i’r pwyllgor am yr adroddiad, ac y byddan nhw’n ymateb maes o law.

“Cymru yw’r rhan gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu’r elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal,” meddai.

“Mae gennym uchelgais radical i drawsnewid gwasanaethau i blant yng Nghymru.”

Plant ddim eisiau cael eu gwthio o gwmpas y system gofal fel “nwyddau”

Mae Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Cymru’n pwysleisio pwysigrwydd dod â gor-elwa ar ofal plant o fewn y sector preifat i ben