Annog pobol ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth yw un o brif flaenoriaethau’r Arglwydd Carmen Smith yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Fe wnaeth Carmen Smith y sylwadau wrth sgwrsio gyda golwg360 yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd heddiw (Hydref 11).

Er bod y ffocws heddiw ar araith Rhun ap Iorwerth brynhawn yma, bu golwg360 yn siarad â rhai o fenywod blaenllaw Plaid Cymru am flaenoriaethau’r blaid i bobol ifanc Cymru.

“Dw i’n meddwl bod hi’n bwysig iawn i gael mwy o bobol ifanc i mewn i wleidyddiaeth,” meddai’r Arglwydd Carmen Smith, aelod ieuengaf Tŷ’r Arglwyddi sy’n dod o Ynys Môn.

Er bod mwy o bobol ifanc yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru, meddai, dydy hynny ddim wedi golygu bod mwy yn pleidleisio nag yn dod yn aelodau o bleidiau penodol.

Dim ond hanner y bobol 18 i 24 oed wnaeth bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol 2019, o gymharu â dros dri chwarter o etholwyr 65 oed a hŷn.

Dydy’r ystadegau diweddaraf heb gael eu cyhoeddi eto.

Buddsoddi mewn addysg

Buddsoddiad mewn addysg yw un o flaenoriaethau’r Aelod o’r Senedd Heledd ap Fychan i bobol ifanc.

Ddechrau’r wythnos, dywedodd Plaid Cymru bod angen i Lafur gadw at eu haddewid i roi cyllid ychwanegol tuag addysg.

Yn eu maniffesto cyn Etholiad Cyffredinol 2024, fe wnaeth Llafur Cymru ddweud y bydden nhw’n cynyddu cyllid i’r sector ac yn mynd i’r afael â heriau ehangach sy’n wynebu’r maes, pe baen nhw’n cael eu hethol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi cynyddu cyllid llywodraeth leol ac wedi blaenoriaethu cefnogaeth i ysgolion.

“Mae yna gymaint o gyfleoedd yn cael eu colli,” meddai Heledd ap Fychan, llefarydd ei phlaid dros Addysg, wrth golwg360.

“Mae’r ffaith bod bysus ysgol a’r ffaith bod y llywodraeth ddim wedi sicrhau mynediad i ysgolion am ddim yn golygu bod gymaint o absenoldeb rŵan oherwydd bod pobol methu fforddio bws.”

Dywed bod Plaid Cymru eisiau i bobol ifanc gael teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus am ddim, i’r ysgol a thu hwnt.

Llinos Medi ac Ann Davies

‘Economi a swyddi da’

I’r Aelodau Seneddol sydd newydd eu hethol i San Steffan, Llinos Medi ac Ann Davies, mae addysg, yr economi a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd i bobol ifanc aros yng Nghymru yn holl bwysig.

“Mae’n rhaid sicrhau bod pobol ifanc yn cael yr addysg orau er mwyn cyrraedd eu potensial,” meddai Llinos Medi, Aelod Seneddol Ynys Môn, wrth golwg360.

O ran yr economi, dywed bod rhaid cael “economi dda yng Nghymru sydd wedyn yn rhoi’r swyddi da iddyn nhw fel bod nhw’n gallu aros yn eu cymunedau”.

Ar yr un trywydd, dywed Ann Davies, Aelod Seneddol Caerfyrddin, wrth golwg360 ei bod hi’n hybu ARFOR fel ffordd o roi cyfleoedd i bobol ifanc ddod yn ôl adra.

Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Drwy ARFOR mae yna gyfleoedd a chefnogaeth i bobol sydd yn aros yng Nghymru i agor busnesau.

“A hefyd i lwyddo yn lleol, mae yna grant bellach sydd yn rhoi cyfle i bobl i ddod adre, ac i symud adre sydd efallai yn gallu bod yn gatalydd i bobl ddod yn ôl,” ychwanega Ann Davies.

Mae Llwyddo’n Lleol yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i deuluoedd sydd am ddychwelyd i siroedd ARFOR, cyn belled â bod un oedolyn dan 35 oed, bod un ohonyn nhw’n siarad Cymraeg neu wedi ymrwymo i ddysgu a bod un oedolyn yn dod yn wreiddiol o Wynedd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Ynys Môn.