“Diwrnod agored i dawelu’r cyhoedd – ond a oes gwir ymdrech i greu partneriaeth?” Dyna gwestiwn ymgyrch Achub Plas Tân y Bwlch ym Maentwrog ger Blaenau Ffestiniog.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n gwerthu’r plas am £1.2m, ond mae rhai yn y gymuned leol yn awyddus i’w weld yn mynd i ddwylo’r gymuned yn hytrach na chwmni preifat.

Yn ôl Awdurdod y Parc, mae eu sefyllfa ariannol yn golygu nad ydy hi’n bosib iddyn nhw barhau i ariannu’r plas, sy’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fis Medi, dywedodd y Parc Cenedlaethol eu bod nhw’n oedi tan ddiwedd Tachwedd cyn penderfynu ar werthiant yr adeilad rhestredig Gradd II.

Ddydd Llun, Hydref 14, bydd sesiwn galw heibio i’r cyhoedd yn cael ei chynnal drwy’r dydd ym Mhlas Tan y Bwlch, a hynny rhwng 10 y bore a 7 yr hwyr,

Y bwriad, medd y Parc Cenedlaethol, yw ateb unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd, rhoi eglurder ar fynediad cyhoeddus at lyn a choetiroedd sydd ar dir y plas a sicrhau bod barn y cyhoedd yn cael ei glywed.


Yn dilyn gweld adeilad hanesyddol Plas Tan y Bwlch ar werth mae aelodau lleol o’r gymuned wedi dod at ei gilydd ac yn awyddus i weld cynllun gwell yn cael ei roi ar waith. Nid yw’r gymuned leol am golli darn o’u treftadaeth, darn sy’n perthyn i hanes chwarelyddol yr ardal ac yn rhan o dirlun sydd wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd. Felly, bu ymdrech i ddeall mwy am sefyllfa ariannol heriol yr Awdurdod a thrafod sut y gallai cwmni neu grŵp cymunedol gymryd yr awenau.

Ond, yn anffodus dydi’r Awdurdod yn methu â rhannu unrhyw gynlluniau busnes sydd ganddynt ar gyfer y Plas – achos ni fu cynllun o’r fath ers 2016-19. Nid ydynt chwaith wedi ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth am gyfrifon y Plas. Dim ond un ffigwr sydd i’w gael, heb unrhyw fanylder nac eglurder. Corff cyhoeddus yn rheoli cyfleuster o’r fath am bum mlynedd heb unrhyw gyfeiriad pendant, goeliwch chi fyth.

Ond wrth gwrs, mae disgwyl i grwpiau cymunedol neu fenter gymdeithasol allu creu beth maen nhw ei ddisgrifio fel cais cryf iawn mewn prin dim amser – o gymharu gyda’r bum mlynedd maen nhw wedi rhedeg yr adnodd heb unrhyw gynllun o’r fath.

Yng ngeiriau Cadeirydd yr Awdurdod, Y Cynghorydd Edgar W. Owen: “Rhaid sicrhau fod unrhyw drosglwyddiad i gwmni cymunedol, os am lai na gwerth y farchnad agored, unai yn gais cryf iawn neu yn les am gyfnod penodol gan fod dyletswydd ar yr Awdurdod i beidio gwaredu eiddo am lai na’i wir werth.”

Mae hyn yn dod â ni at y pris. Mae llawer o’r farn bod yr ased wedi ei thanbrisio. Mae un o’r chalets sydd ar werth yn y pecyn wedi gwerthu am £90,00 yn 2015. Gwerthwyd tŷ tair llofft y Gate Lodge ar waelod allt y Plas am £220k yn 2023. Felly sut ar y ddaear y daethpwyd i’r pris hwn o £1.2m?

Mae’r chalet sydd piau’r Awdurdod wedi sefyll yn wag ers haf 2023. Roedd yn dod ag incwm o £110 y noson fel uned hunanarlwyo. Mae angen toiled newydd ynddo – ond a yw’n rheswm i’w adael yn wag am dros flwyddyn? Mae’r caffi wedi bod ar gau. Colledion di-ri sy’n rhan o batrwm yr Awdurdod o ran diffyg rheoli effeithiol.

A sut mae gwneud colled ar eiddo sydd ar safle mor drawiadol oni bai am ddiffygion sylweddol o ran rheoli’r lle? Cafodd Datrys HR Solutions eu talu i greu adroddiad i’r materion staffio yno, dogfen eto nad ydi’n cael ei rhannu’n gyhoeddus er gwneud cais amdani. Mae cofnodion Bwrdd y Plas dros y pum mlynedd diwethaf yn dangos y llusgo traed a diffyg gweithredu sydd wedi bod. Dylid bod wedi hysbysu’r cyhoedd yn llawer cynt a chreu cynllun gwell gyda chymunedau lleol, yn hytrach na gadael pethau ddirywio ac wedyn yr ymdrech dila i greu partneriaeth.

Byddai gwerthu eiddo cyhoeddus i gwmni preifat heb ymgynghori â’r gymuned yn gam gwag mawr, ac yn atal cwmni cymunedol rhag rheoli’r Plas er budd y gymuned. Y cyhoedd sydd wedi ariannu pryniant yr ased nol yn y 1960au, ac wedi ariannu cyflogau swyddogion sydd wedi ei chamreoli. Onid ydi bellach yn amser i’r Awdurdod wneud y peth iawn a rhoi gwir ymdrech i gefnogi menter gymunedol? Waeth iddynt heb a sôn am lesiant cenedlaethau’r dyfodol a’n sarhau yn y fath fodd.

Oedi cyn penderfynu ar ddyfodol Plas Tan y Bwlch yn “gam bach yn y cyfeiriad cywir”

Cadi Dafydd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn oedi tan fis Tachwedd cyn penderfynu a ydyn nhw am werthu Plas Tan y Bwlch

Y posibilrwydd o werthu Plas Tan-y-Bwlch i gwmni preifat “yn torri calon rhywun”

Cadi Dafydd

Mae’r safle ym Maentwrog, sydd ar werth am £1.2m, yn cynnwys llyn a choedlan sy’n boblogaidd gyda cherddwyr cŵn a theuluoedd lleol