Bydd rhan o’r A470 ym Mhowys ar gau am saith wythnos er mwyn gwneud gwaith ffordd.

Mae gwaith trwsio mawr ar fin dechrau rhwng Talerddig a Dolfach, fydd yn golygu bod y ffordd ar gau’n llwyr rhwng Hydref 31 a Rhagfyr 20.

Fe fydd y gwaith yn datrys problem gyda wal sy’n cynnal y ffordd.

Disgynnodd y wal flwyddyn yn ôl gan orfodi i’r ffordd gael ei chau mewn argyfwng, ac mae goleuadau ffordd wedi bod yn rheoli traffig ers hynny.

Dywed Llywodraeth Cymru bod gwaith manwl i ddylunio ateb i’r broblem gyda’r wal uwchlaw’r Afon Laen bellach wedi’i wneud, a bod hi’n bosib dechrau ar y gwaith trwsio.

Gwneud y gwaith yn “hanfodol”

Ar ôl i’r ffordd ailagor bydd goleuadau traffig dwy ffordd yn cael eu hailosod ar y safle er mwyn gallu gorffen y gwaith adeiladu.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yr holl fesurau rheoli traffig wedi’u tynnu o’r safle erbyn Chwefror 14 2025.

“Bydd y gwaith yn trwsio’r wal gynnal uwchlaw’r Afon Laen gerllaw,” medd datganiad gan Lywodraeth Cymru

“I wneud hynny, bydd angen cau’r ffordd bob dydd trwy’r dydd gydol y cyfnod hwn.

“Ond mae’r peirianwyr ffyrdd yn gwneud eu gorau i gadw cyfnod y cau mor fach â phosibl.

“Mae’r gwaith yn cael ei wneud pan fydd y ffordd ar ei thawelaf, gan gynnwys dros wyliau hanner tymor.

“Mae’r gwaith yn hanfodol er mwyn gallu cadw’r ffordd ar agor dros y blynyddoedd i ddod.

“Rydym yn deall y bydd y gwaith yn creu anawsterau yn y tymor byr, ac rydym am ddiolch i yrwyr am eu hamynedd.

“Mae’n hanfodol bod y gwaith yn cael ei wneud nawr er mwyn sicrhau bod gennym ffordd gydnerth at y dyfodol.”