Bydd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn annerch ei blaid ar ddechrau eu Cynhadledd Flynyddol yng Nghaerdydd heddiw (Hydref 11).

Wedi’u canlyniad gorau erioed yn etholiad San Steffan fis Gorffennaf, bydd arweinydd y Blaid yn troi’i sylw at y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru, sydd wedi wynebu nifer o drafferthion dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ystod yr anerchiad, bydd Rhun ap Iorwerth yn beirniadu 25 mlynedd o arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru ac yn trafod y cyfle sydd gan Blaid Cymru i’w disodli yn Etholiad Seneddol 2026.

Yn ogystal, mi fydd yn manylu ar weledigaeth y Blaid ar gyfer economi Cymru, ac yn cyflwyno cyfres o bolisïau’n amlinellu sut y byddai’r Blaid yn mynd ati i ddatrys problemau hirfaith yn y Gwasanaeth Iechyd a’r system addysg.

‘Torri’r cylch o feddwl tymor byr’

Canolbwynt beirniadaeth yr anerchiad fydd y cynlluniau hirdymor mae Plaid Cymru’n honni nad oes gan y Blaid Lafur.

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth ddadlau y byddai llywodraeth Plaid Cymru’n dra gwahanol, ac yn gweithredu polisïau cyfannol ac uchelgeisiol.

Mae disgwyl iddo ddweud: “Bydd fy llywodraeth yn torri’r cylch o feddwl tymor byr sy’n gadael Cymru i lawr.

“Yn wahanol i Eluned Morgan, byddaf yn cydnabod bod rhai pethau wedi torri ond yn bwysicach fyth byddaf yn benderfynol nad oes dim byd y tu hwnt i’w drwsio.

“Ni fydd fy llywodraeth yn ystyried materion ar eu pen eu hunain. Nid yw gweithio mewn seilo yn helpu neb pan fydd un penderfyniad mor aml yn effeithio ar un arall.”

Economi, Addysg, Iechyd

Bydd Rhun ap Iorwerth yn canolbwyntio ar bwysigrwydd seiliau cadarn a rhyng-gysylltedd polisi ar gyfer creu economi llwyddiannus yng Nghymru.

“Bydd angen gwelliannau mawr mewn cyrhaeddiad addysg i ddatgloi ein potensial economaidd, ond sylfaen arall ar gyfer economi iach yw Cymru iach – ei phobl sy’n weithgar o ran corff a meddwl.”

Bydd yn beirniadu toriadau diweddar o ran polisïau ataliol.

“Eleni, wrth i restrau aros dyfu – fe wnaeth Llafur am ryw reswm anesboniadwy dorri’r swm y mae’n ei wario ar bolisïau iechyd ataliol.

“Meddwl tymor byr yw hwn gyda phoen hirdymor yn siŵr o ddilyn. Mae’n bwydo’r broblem yn hytrach na’i datrys, gan roi rhagor o bwysau ar staff rheng flaen, gan lenwi ein hysbytai â chleifion sy’n sâl fyth.”

Mae disgwyl iddo gydnabod fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “wedi ei eni ar wyliadwriaeth Llafur,” ond y bydd y gwasanaeth yn derbyn “ailenedigaeth o dan lywodraeth Plaid Cymru,” gan ddadlau:

“Bydd Plaid Cymru yn gwrthdroi’r math hyn o feddylfryd, gan sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn addas ar gyfer dathliadau ei ganmlwyddiant a thu hwnt.”

“Ac mae gennym dasg enfawr o’n blaenau. O ran gwella ystâd y gwasanaeth iechyd, awn ymhellach na’r 8 Gweinidog Iechyd Llafur diwethaf, gan glirio’r ôl-groniadau o waith cynnal a chadw brys dros gyfnod tymor nesaf y Senedd… Mae’n rhaid i ni gael ystâd gwasanaeth iechyd sy’n addas at y diben.”

Polisïau i greu ‘Cymru iachach, gyfoethocach’

Bydd yr anerchiad yn nodi sawl man polisi penodol byddai llywodraeth Plaid Cymru’n canolbwyntio arnynt, megis “cyflwyno contract canser â ffocws o safbwynt targedau ar gyfer pob claf – gan ddiwygio trefniadau llywodraethu’r GIG, gan ddod â safonau yn ôl lle y dylent fod a rhestrau aros i lawr.”

Bydd Rhun ap Iorwerth hefyd yn cyhoeddi y byddai Cabinet Plaid Cymru’n cynnwys ‘Gweinidog Iechyd y Cyhoedd’ fyddai’n “sicrhau cenhadaeth wirioneddol genedlaethol o greu bywydau iachach sydd yn ei dro yn sicrhau arbedion sylweddol.”

Yn ogystal, bydd yr arweinydd yn datgelu cynlluniau Plaid Cymru am ‘gyllideb newydd’ fyddai’n cael ei chyhoeddi o fewn 100 niwrnod o sefydlu llywodraeth newydd, “yn seiliedig ar egwyddorion o Gymru iachach, gyfoethocach – gydag addewid y bydd gwariant ar fesurau iechyd ataliol yn cynyddu bob blwyddyn.”