Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn teithio i’r Alban heddiw (Hydref 11) ar gyfer cyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau newydd Syr Keir Starmer.

Bydd y cyfarfod yn gyfle i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig gael trafod materion o bwys lleol a chenedlaethol gydag arweinwyr y gwledydd datganoledig ynghyd â meiri rhanbarthol Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai eu blaenoriaeth yn y cyfarfod fydd sicrhau twf a buddsoddiad fel rhan o agenda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

‘Ailosod y berthynas’

Soniodd Eluned Morgan cyn y cyfarfod am y newid y mae’r Cyngor yn ei gynrychioli:

“Mae’r Cyngor newydd hwn – Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau – yn enghraifft o ailosod y berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Dim ond drwy gydweithio, a hynny yng ngwir ystyr y gair, y gallwn gyflawni dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfle gwirioneddol i weithio fel partneriaid.”

Yn ogystal â phrif amcan y drafodaeth, sef twf economaidd, mae’r Prif Weinidog am bwysleisio sawl man polisi lle mae disgwyl i’r ddwy Lywodraeth gydweithio.

Dywedodd: “Mae yna lawer o flaenoriaethau ry’n ni’n eu rhannu y gallwn ni gydweithio arnyn nhw, gan gynnwys helpu pobl i gael gwaith, annog arloesi a buddsoddi, a gwella seilwaith economaidd a sgiliau.”

Bydd Prif Weinidog Cymru yn parhau a’r agenda hwn Ddydd Llun (Hydref 14), pan fydd yn mynychu Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol gyntaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain.