Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfraddau Cymreictod yn awgrymu cwymp yn y niferoedd sy’n medru’r iaith i’r lefelau isaf ers wyth mlynedd, ac yn ôl cadeirydd Cymdeithas yr Iaith mae’r ffigurau yn “hynod siomedig, er ddim yn syndod”.
Mae’r ffigurau, gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddoe (dydd Mercher, Hydref 9) yn awgrymu mai 854,000 o bobol dair oed neu hŷn, neu 27.8% o’r boblogaeth, oedd yn medru siarad Cymraeg yng Nghymru rhwng Gorffennaf 2023 a Mehefin 2024.
Mae hyn yn gwymp o 1.4% ers y llynedd, ac yn is nag unrhyw ganlyniad ers 2017.
Daw’r data fel rhan o gyhoeddiad swyddogol o ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Dywed Joseff Gnagbo, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, fod y dirywiad yn adlewyrchu “polisi bach, arwynebol o fewn y drefn bresennol” gan Lywodraeth Cymru.
‘Patrwm o ddirywiad’
Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu cwymp yn lefelau’r rheiny sy’n medru’r iaith ar draws Cymru.
Mae’r Llywodraeth yn rhybuddio nad yw’r data’n gwbl ddibynadwy, am fod y ffigurau’n cwmpasu ailgyflwyno cyfweliadau wyneb-yn-wyneb fel rhan o’r arolwg ym mis Tachwedd 2023, wedi’r cyfnod clo.
Serch hynny, mae’r data hirdymor yn parhau i adlewyrchu disymudedd, os nad dirywiad, yn yr hirdymor.
Wedi tuedd gyffredinol gynyddol rhwng 2008 a 2018 o ran y niferoedd sy’n medru siarad Cymraeg, o lai na 750,000 i bron i 900,000, mae’r ffigur wedi aros yn debyg neu wedi dirywio rhywfaint ers hynny.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dylai’r hyn mae’r data’n ei awgrymu fod yn bryder i Lywodraeth Cymru, sydd yn dal i anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Joseff Gnagbo wedi crybwyll y cysylltiad rhwng y methiannau ym mholisi presennol y Llywodraeth a chanlyniadau siomedig yr arolwg.
“Mae’r canlyniadau… yn pwysleisio’r ffaith nad yw dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol yn sicr o hyd. Yn anffodus, bydd y patrwm yma o ddirywiad yn parhau os yw’r Llywodraeth yn glynu at gamau polisi bach, arwynebol o fewn y drefn bresennol,” meddai.
Bwlch rhwng yr Arolwg a’r Cyfrifiad
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am y ffordd mae’r arolwg yn ailddiffinio gallu yn y Gymraeg, o gymharu â’r hyn gaiff ei ddefnyddio gan y Cyfrifiad.
Yn ôl ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gwahaniaeth rhwng y dulliau mesur a’r cyd-destun gaiff eu defnyddio gan y Cyfrifiad a’r Arolwg.
Mae’r ddau, medden nhw, “yn mesur pethau ychydig yn wahanol”.
Mae’r gwahaniaeth wedi’i adlewyrchu yn y bwlch sylweddol, a chynyddol, rhwng y canlyniadau gaiff eu cyhoeddi.
Yn 2021, yn ôl yr Arolwg, 29.5% o bobol yng Nghymru dros dair oed oedd yn medru’r iaith ond, yn ôl y Cyfrifiad, dim ond 17.8% o’r boblogaeth oedd yn medru’r Gymraeg.
Achosodd y canlyniad hwnnw gryn bryder pan gafodd ei gyhoeddi’r llynedd, gyda 538,300 yn medru’r iaith, ymhell o darged miliwn o siaradwyr y Llywodraeth.
Mae’r Llywodraeth yn rhybuddio na ddylai canlyniadau’r arolwg gael eu defnyddio er mwyn mesur effaith polisïau iaith Llywodraeth Cymru, na’r cynnydd tuag at filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Ond mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn teimlo bod y Llywodraeth wedi ceisio osgoi ymdrin â siom y Cyfrifiad drwy gyfeirio at ffigurau’r Arolwg.
“Ers cyhoeddi ffigurau siomedig y Cyfrifiad, mae’r Llywodraeth wedi ceisio ailddiffinio’r targed gan gyfeirio at arolygon eraill sy’n dangos bod mwy o siaradwyr na’r Cyfrifiad,” meddai Joseff Gnagbo.
“Nid newid y dull o fesur yw’r ffordd onest i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond gweithredu, buddsoddi a rhoi polisïau ar waith fydd yn arwain at gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg a defnydd bob dydd o’r iaith.”
‘Newid y drefn yn ei chyfanrwydd’
Ychwanega Joseff Gnagbo fod ymateb i’r dirywiad, ac “esgusodion” y Llywodraeth, yn fater o wrthdroi polisi’n gyfan gwbl, gan gyfeirio at ymgyrchoedd hirfaith Cymdeithas yr Iaith megis am Ddeddf Eiddo i Gymru.
“Mae’n rhaid newid y drefn yn ei chyfanrwydd trwy fesurau fel darparu addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050, cyflwyno Deddf Eiddo i sicrhau hawl pobol Cymru i dai yn lleol a dyfodol ein cymunedau, ymestyn hawliau pobol Cymru i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’u bywyd a sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn cynnal cyflogaeth mewn cymunedau a sefydliadau Cymraeg,” meddai.