Mae digwyddiad o argyfwng wedi ei gyhoeddi mewn ysbyty yn ne Cymru yn sgil difrod i do’r adeilad.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi rhyddhau datganiad heddiw (dydd Iau, 10 Hydref) sy’n dweud eu bod yn “ystyried yr holl opsiynau” wedi i arolwg ganfod difrod difrifol i do Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bod angen gwaith adnewyddu sylweddol.
Mae glaw trwm wedi achosi i ddŵr ddod i mewn i’r adeilad drwy’r to ond mae’r bwrdd bellach yn dweud bod y broblem yn llawer gwaeth nag oedden nhw wedi meddwl yn wreiddiol.
Yn ôl y datganiad bydd peth o’r gofal sy’n cael ei ddarparu yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn cael ei symud i rywle arall yn ardal y bwrdd iechyd er mwyn “darparu gofal mewn amgylchedd diogel”.
Mae’r rhai sydd ag apwyntiadau wedi’u trefnu yn yr ysbyty yn cael eu hannog i fynychu oni bai eu bod yn cael gwybod fel arall.
Dywedodd y bwrdd iechyd fod y gwaith yn cael ei drin “fel blaenoriaeth” a bod cynllun yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd.
‘Problemau parhaus’
Dywed y datganiad: “Yn dilyn problemau parhaus yn Ysbyty Tywysoges Cymru gyda dŵr glaw yn mynd i mewn i’r adeilad drwy’r to, mae contractwyr arbenigol wedi cynnal arolwg llawn o gyflwr to’r prif adeilad ar draws y safle.
“Yn ogystal â rhoi gwybod am rai camau gweithredu ar unwaith, mae’r arolwg wedi nodi difrod hirdymor mewnol mwy difrifol i do’r ysbyty a fydd yn gofyn am raglen helaeth o adnewyddu ac atgyweirio.
“Rydym yn delio â hwn fel digwyddiad o argyfwng, ac rydym nawr yn archwilio pob opsiwn i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal mewn amgylchedd diogel i’r cleifion a’r staff hynny yn ein wardiau a’r rhai y bydd angen gofal arnynt yn y dyfodol.
“Bydd angen i’r opsiynau gynnwys y defnydd o gyfleusterau’r bwrdd iechyd cyfan i sicrhau bod gennym ni’r gallu i ddiwallu anghenion ein holl gleifion.
“Rydym yn trin y gwaith hwn fel blaenoriaeth a byddwn yn parhau i gyfathrebu â phobl yn uniongyrchol a thrwy’r ystod o sianeli sydd ar gael i ni.”
Mae ysbytai mawr eraill yn ardal y bwrdd iechyd yn cynnwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.