Ddiwrnod yn unig cyn cyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau, mae maer un o ranbarthau Lloegr wedi codi pryderon ynglŷn â sut mae’r Trysorlys yn Llundain yn ystyried datganoli.

Mae’r Blaid Lafur wedi dweud y bydd mwy o ddatganoli yn digwydd er mwyn grymuso rhanbarthau dinasol fel Awdurdod Manceinion Fwyaf.

Ond yn ôl un maer, sydd am aros yn ddienw, nid yw’r Trysorlys “yn gweld datganoli” yn yr un ffordd a’r rhanbarthau.

“Mae’r Trysorlys yn dweud wrth y meiri, ‘Hwn yw’r strategaeth genedlaethol; rydym ond yn gweld chi fel ffordd o weithredu ein strategaeth,’” meddai mewn cyfweliad efo’r papur I.

“Dydyn nhw ddim yn ei weld fel datganoli neu, ‘rydych chi efo’r rheolaeth, a chi sydd yn dewis.’

“Maen nhw ond gweld ni (y rhanbarthau) fel mecanwaith ar gyfer cyflawni eu cynlluniau cenedlaethol.

“Mae’r meiri yn ei gasáu o.”

Mae gan y rhanbarthau bwerau penodol yn barod, gyda thrafnidiaeth yn Lerpwl a Manceinion yn cael ei reoli gan y Llywodraethau Rhanbarthol.

Ond fel y mae’r maer yn dweud, mae agwedd y Trysorlys yn tanseilio’r pwerau hynny.

Ychwanegodd y maer bod gweision sifil yn y Trysorlys yn rhoi pwyntiau gwerthu unigryw, neu unique selling points, sydd yn seiliedig ar dargedau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Be ydi’r pwynt o gael meiri os ydych chi am ddweud wrthon ni be i wneud a sut i wneud heb roi’r rhyddid o gael datganoli?”

‘Cydweithio ar weledigaeth gyffredin’

Er bod y maer wedi pwysleisio nad yw hyn yn fater gwleidyddol rhyngddyn nhw a’r Canghellor Rachel Reeves, ni fydd y newyddion yn cael ei groesawu ddiwrnod yn unig cyn cyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.

O safbwynt Cymru, mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi dweud yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, 9 Hydref) ei bod hi “yn rhoi pwysau” ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am “fwy o degwch” ynglŷn ag arian.

Daw’r sylwadau hyn ar ôl i arweinydd Plaid Cymru gyhuddo Eluned Morgan a Llywodraeth Cymru o ofni’r “embaras” o ofyn am fwy o arian i Gymru rhag ofn bod Keir Starmer yn gwrthod.

Bydd Eluned Morgan yn gobeithio y bydd Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn gyfle i gael anghenion Cymru ar yr agenda.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Bydd y Prif Weinidog yn mynychu cyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau ddydd Gwener.

“Mae hwn yn gyfle mawr i ddechrau cyfnod newydd o bartneriaeth gyda dwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol Cymru.”

Gyda sylwadau’r maer, a hefyd penodiad Sue Gray, cyn-Bennaeth Staff Rhif 10, mi fydd yna lot o sylw ar y cyngor sydd yn cyfarfod fory (11 Hydref) yng Nghaeredin.

Setliad datganoli sydd dal “yn wamal”

Mae’r Athro Huw Williams, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi bod yn siarad â golwg360 am y Cyngor sydd yn cael ei weld “fel ymgais gan y Blaid Lafur i wireddu” perthynas well rhwng y llywodraeth a’r sefydliadau datganoledig.

Ond dywed bod “dim sicrwydd” a fydd y Blaid Lafur “yn gwneud gwaith da ohoni”, sydd yn cael ei adlewyrchu gan sylwadau’r maer.

“Mae rhywun yn gallu deall pam fod yna nifer o leisiau sydd yn fwy amheus o’r syniad o’r gororau Celtaidd gallwn i ddweud.”

Yn ôl Huw Williams, y broblem sy’n wynbeu’r Cyngor yw’r ffaith “bod y setliad datganoli, yn enwedig yng Nghymru, yn wamal.”

“Rydym efo’r model cadw pwerau, a’r syniad bod datganoli mewn egwyddor yn parhau i fod yn seiliedig ar ewyllys da San Steffan.”

Ychwanegodd, yn y cyd-destun yma, bod y “Cyngor yn gallu cael ei ystyried yn rhywbeth sydd yn eithaf arwynebol… a rhywbeth sydd ddim wir yn mynd i newid y sefyllfa yn y tymor canolig, neu’r hir dymor.”

Dadansoddiad ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen:

“Does dim amheuaeth bod rhethreg y Llywodraeth Lafur presennol wedi bod llawer mwy hael na’r Llywodraeth Geidwadol.  

“Ond mae’r sefydliadau yn galw am fwy na rhethreg ac eisiau gweld gweithred tuag at system sydd yn gweithio’n well.

“Mae hyn yn wir iawn yn achos Cymru, lle mae sicrhau rhagor o arian yn bwnc llosg, yn enwedig gan fod llywodraeth Lafur ar naill ochr yr M4.

“Os bydd y Trysorlys yn parhau i amharu ar waith y rhanbarthau yn Lloegr, bydd yr un cwestiwn efallai am ddylanwad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Lywodraeth Cymru.

“Fe fydd y datblygiadau yn y Cyngor yfory yn ddiddorol i weld faint o densiynau sydd yna, ac a oes unrhyw weithredu pendant am ddod ohoni.”