Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau gan Aelodau’r Senedd i sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru oherwydd pwysau ar y pwrs cyhoeddus.
Roedd Siân Gwenllian, AS Plaid Cymru, wedi dadlau’r achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor, gan rybuddio bod angen brys i wella gwasanaethau yn y gogledd.
Roedd Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon, wedi croesawu agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn swyddogol yr wythnos ddiwethaf – y nod yw hyfforddi 140 o fyfyrwyr y flwyddyn erbyn 2029.
Bydd ysgol fferylliaeth hefyd yn cael ei sefydlu ymhen blwyddyn, meddai, gyda hyd at 100 o lefydd, a dywedodd bod ysgol ddeintyddol yn gam naturiol nesaf.
“Fe gymerodd beth amser i argyhoeddi Llywodraeth [Cymru] o’r angen am ysgol feddygol, a dw i’n gobeithio y gallwn ni wneud mwy o gynnydd yn gynt o lawer o ran hyfforddi deintyddion i’r dyfodol ym Mangor,” meddai Siân Gwenllian.
‘Angen gwella gwasanaethau deintyddol ar frys’
Wrth arwain dadl ddydd Mercher (Hydref 9), cyfeiriodd Siân Gwenllian at adroddiad roedd hi wedi’i gomisiynu o’r enw Filling the Gaps.
Dywedodd wrth y Senedd fod gan 31% o bractisau deintyddol yng Nghymru lefydd gweigion ond bod y ffigwr yn cyrraedd 40% yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
“Mae’r sefyllfa’n wael iawn ar draws Cymru ond mae’n waeth byth yng ngogledd Cymru,” rhybuddiodd.
Ychwanegodd Siân Gwenllian: “Mae angen gwella gwasanaethau deintyddol ar frys yn yr ardal a byddai sefydlu ysgol ddeintyddol … yn cyfrannu at gwrdd â’r heriau hynny.”
Gan ddyfynnu o’r adroddiad, dywedodd: “Ar y cyfan, mae’r achos dros sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor yn gryf iawn, gan gynnig cyfleoedd i gael effaith gadarnhaol ar iechyd, economi ac addysg y rhanbarth.”
‘Cyflenwad byr’
Dywedodd Carolyn Thomas o’r Blaid Lafur: “Does dim deintyddion GIG ar gael yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac maen nhw’n brin ar draws gogledd Cymru.”
Dywedodd wrth y Senedd ei bod yn anodd i’r gwasanaeth iechyd oherwydd bod deintyddion yn gallu gwneud yr un faint o arian drwy drin hanner y nifer o gleifion preifat o’i gymharu â rhai ar y GIG.
Rhybuddiodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod deintyddfa arall yn ei etholaeth yn Ynys Môn wedi penderfynu tynnu’n ôl o ddarparu gwasanaethau’r GIG.
Mae Mabon ap Gwynfor, o Blaid Cymru hefyd wedi rhybuddio am argyfwng mewn deintyddiaeth, gan ddweud bod un o’i etholwyr wedi gorfod teithio o’r Bala i’r Alban i gael triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd Llŷr Gruffydd, un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru, wedi codi pryderon am wasanaeth tair haen, gan ddweud bod teulu o bedwar yn wynebu talu mwy na £500 y flwyddyn i weld deintydd a hynny cyn unrhyw driniaethau.
Galwodd Darren Millar o’r Ceidwadwyr Cymreig am ysgol ddeintyddiaeth, gan ddweud: “Mae’n gwbl amlwg bod gennym ni brinder deintyddion ar draws y wlad.”
‘Dim cynlluniau’
Mae gan unig ysgol ddeintyddiaeth Cymru yng Nghaerdydd le i hyfforddi 74 o fyfyrwyr y flwyddyn.
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, y byddai cynyddu nifer y lleoedd yn heriol oherwydd cyfyngiadau ariannol.
“Nid oes unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer ysgol o’r fath, ond nid yw hyn yn golygu diystyru ail ysgol ddeintyddol am byth – yn y gogledd nac yn rhywle arall – pe bai’r hinsawdd ariannol yn gwella,” meddai.
Pwysleisiodd na fydd cynyddu hyfforddiant deintyddol yn unig yn gwella mynediad at ofal y GIG.
Wrth gloi’r ddadl, dywedodd Jeremy Miles y bydd ymarferwyr deintyddol cyffredinol yn chwarae rhan bwysig yng ngweithlu deintyddol y dyfodol wrth i Gymru symud tuag at ddull o atal yr angen am driniaeth.