Mae Rhun ap Iorwerth wedi ailadrodd na fyddai Plaid Cymru’n cefnogi Cyllideb Llywodraeth Cymru yn y Senedd heb addewidion pendant yn gyntaf.

Mewn cynhadledd yn edrych tuag at Gynhadledd Plaid Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener (Hydref 11), dywedodd fod rhaid cael system ariannu newydd, ariannu canlyniadol o brosiectau HS2, a datganoli cyfiawnder ac Ystad y Goron.

“Dyma yw ein gofynion, ac maen nhw’n glir tu hwnt,” meddai wrth amlinellu’r hyn mae Plaid Cymru am ei fynnu gan y Llywodraeth.

Cydweithio

Mae Rhun ap Iorwerth yn benderfynol na fydd y Blaid yn ceisio Cytundeb Cydweithio gyda’r Llywodraeth, a bod “y bêl yng nghwrt” Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.

Mae e wedi cadarnhau na fu unrhyw drafodaethau ffurfiol â’r Blaid Lafur hyd yma.

Ond mae Eluned Morgan yn dweud bod y cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru “wedi bod yn dda” ac wedi agor y drws i ragor o gydweithio cyn diwedd y Senedd hon yn 2026.

Bydd y Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyflwyno gan y Llywodraeth i’r Senedd ym mis Rhagfyr, ac mi allai gael ei chadarnhau wedyn erbyn mis Mawrth.

Ond ar hyn o bryd, dydy’r Ceidwadwyr Cymreig, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru na Phlaid Cymru ddim wedi dweud y byddan nhw’n rhoi sêl bendith i’r Gyllideb heb gonsesiynau drachefn.

Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, eisoes wedi dweud wrth golwg360 na fydd hi’n cefnogi’r Gyllideb heb ragor o gyllid i Gymru.

Mae angen cefnogaeth o leiaf un aelod o’r gwrthbleidiau ar Eluned Morgan er mwyn sicrhau bod y Gyllideb yn cael ei phasio.

Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Er nad yw’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru, bydd Cyllideb Rachel Reeves, Canghellor San Steffan, ddiwedd y mis yma’n hollbwysig o ran ariannu Cymru.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, roedd yr etholiad cyffredinol yn gyfle gwych “i bwysleisio” gofynion y Blaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Roedd hi’n glir bod Keir Starmer yn mynd i fod yn Brif Weinidog, hyd yn oed cyn y canlyniad terfynol,” meddai.

“Ac i ni, y pethau pwysig yw ariannu teg a chael gwared â system ariannu Barnett, a sicrhau bod y biliynau o bunnoedd sydd yn dod o HS2 yn dod i Gymru.”

Ychwanegodd ei fod yn amau bod Eluned Morgan yn ofni gofyn am ragor o arian i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan ei fod yn credu y “byddai clywed ‘Na’ gan Keir Starmer yn embaras” i Llywodraeth Cymru.

“Fydd Plaid Cymru byth yn camu’n ôl o sefyll fyny dros Gymru,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.


Dadansoddiad Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360:

“Dydy’r sylwadau fan hyn ddim yn llawer o sioc i neb, ond maen nhw’n arwyddocaol o safbwynt pa gyfeiriad y bydd Eluned Morgan yn ei gymryd i geisio llywodraethu.

“Ar ôl blwyddyn anoddaf y Blaid Lafur ers cyn cof, mae’r gwrthbleidiau yn amlwg yn gweld hyn fel cyfle, a chyfle fydd o yn 2026.

“Dydy Rhun ap Iorwerth ddim eisiau ymddangos fel bod yna Gytundeb Cydweithio arall ar y gorwel, mewn cyfnod sydd yn barod yn teimlo fel cyfnod ymgyrchu.

“Mae’r pwynt am safle Eluned Morgan a’r potensial am “embaras” clywed ‘Na’ gan Keir Starmer yn bwynt difyr, ond beth fyddai Plaid Cymru yn medru ei wneud yn wahanol, ac efo mwy o siawns o lwyddo? Cwestiynau i’w holi yng nghynhadledd y Blaid!

“Ond fe ddaw’n gliriach ar ddiwedd y mis beth fydd yn dod i Gymru ar ôl Cyllideb Rachel Reeves. Dyna pryd fydd y trafodaethau yn cychwyn go iawn.”