“Does dim ffordd gwell i ddechrau diwrnod ysgol na thaith fach wrth gerdded neu feicio,” yn ôl aelod o Fwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Daw sylwadau Dr Dafydd Trystan wrth siarad â golwg360, wrth i’r Llywodraeth annog ysgolion ledled Cymru i gyflwyno cynlluniau i deithio i’r ysgol mewn modd llesol.
Mae cynlluniau o’r fath yn hyrwyddo dulliau o deithio i’r ysgol sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy na gyrru, gan gynnwys cerdded, seiclo, a sgwtio.
Maen nhw’n galluogi ysgolion i sicrhau bod y dulliau amgen yn opsiynau go iawn, drwy baratoi seiliau a darparu gwybodaeth i deithwyr ymlaen llaw.
Mae 300 o ysgolion eisoes wedi cytuno i gyflwyno cynlluniau, ac mae nifer ohonyn nhw wedi derbyn cyllid gan y Llywodraeth er mwyn cael gwneud.
Cynlluniau byr
Dogfennau byr, hawdd i’w creu sy’n manylu ar ffyrdd y bydd teithio’n llesol yn bosib ydy Cynlluniau Teithio Llesol.
Maen nhw’n gofyn i arweinwyr ysgolion adlewyrchu ar eu hanghenion unigryw a’u hardaloedd lleol, er mwyn sicrhau bod teithiau mwy llesol yn bosib.
Ymhlith y pethau fydd y cynlluniau’n galluogi ysgolion i’w hystyried mae diogelwch ar y ffordd wrth ollwng a chasglu plant, ac ystod eang yr opsiynau teithio sydd ar gael i deuluoedd.
Yn ogystal, bydd y cynlluniau’n caniatáu i ysgolion fynd i’r afael â phroblemau diffyg canolbwyntio yn y dosbarth, gordewdra, a diffyg hyder corfforol.
Mae’r Llywodraeth yn honni bod gweithgarwch corfforol fel mae’r cynlluniau’n ei hwyluso yn medru cael effaith sylweddol ar yr heriau hyn.
Ysgol Gynradd Romilly ym Mro Morgannwg
Mae gwneud paratoadau tebyg, a chael defnyddio’r cyllid gan y Llywodraeth, wedi galluogi Ysgol Gynradd Romilly ym Mro Morgannwg i adeiladu llochesi beic newydd, a gwella llwybrau teithio.
Dywedodd y Pennaeth, Katy Williams,
“Rwy’ wedi cyffroi’n fawr am yr holl fesurau sydd wedi eu hawgrymu,” meddai’r Pennaeth Katy Williams.
“Dyma gyfle gwych i newid y sefyllfa bresennol, sydd ymhell o fod yn ddelfrydol.”
Mae’r cynlluniau wedi’u trefnu gan gwmni Sustrans Cymru, sy’n hyrwyddo dulliau trafnidiaeth gynaliadwy ac yn gweithio gydag ysgolion ar ran y Llywodraeth.
“Rydym yn argymell i ysgolion fanteisio ar y cyfle gwych hwn i wneud gwahaniaeth i ddiogelwch a llesiant ein plant a’n pobl ifanc,” medd Patrick Williams, Pennaeth Dinasoedd a Threfi Bywiadwy Sustrans Cymru.
“Gan wneud teithio i’r ysgol yn fwy cynaliadwy, rydyn ni’n helpu i greu dyfodol sy’n fwy diogel ac iachach i’n hysgolion, cymunedau, a’n planed.”
‘Dim ffordd gwell i ddechrau diwrnod ysgol’
Mae Dr Dafydd Trystan yn academydd sy’n rhan o Fwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Dywed fod angen sicrhau bod ysgolion yn ymrwymo i’w cynlluniau.
“Fel Bwrdd Teithio Llesol ry’n ni’n ystyried fod cerdded, beicio neu sgwtio i’r ysgol yn rhan allweddol o sicrhau trafnidiaeth mwy cynaliadwy i Gymru,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n cefnogi’n fawr y gwaith o sicrhau fod gan bob ysgol Gynllun Teithio Llesol, ond yn fwy na hynny bod y cynllun yn weithredol bob dydd, a bod y niferoedd o blant sy’n cerdded a beicio a sgwtio yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
“Does dim ffordd gwell i ddechrau diwrnod ysgol na thaith fach wrth gerdded neu feicio.”