Mae melin drafod wedi amlinellu cynigion i wahardd gwleidyddion sy’n dweud celwydd gyda’r nod o adfer ymddiriedaeth y cyhoedd a gwneud Cymru’n un o’r gwledydd mwyaf datblygiedig o ran democratiaeth yn y byd.

Fe wnaeth y Sefydliad ar gyfer Ymchwil Gyfansoddiadol a Democrataidd (ICDR) argymell cosbi gwleidyddion yn y Senedd sy’n camarwain y cyhoedd yn fwriadol.

Mewn papur, mae’r ICDR yn cynnig system debyg i strwythurau rheoleiddio presennol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorfodaeth gynllunio.

O dan fodel yr ICDR, byddai Aelodau neu ymgeiswyr ar gyfer y Senedd sy’n cael eu canfod yn euog o dwyll bwriadol gan broses farnwrol annibynnol yn cael eu gwahardd o’u swyddi.

Fis Gorffennaf, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb ag ymgyrchwyr ar yr unfed awr ar ddeg drwy ymrwymo i gyflwyno deddf newydd ynghylch gwleidyddion sy’n dweud celwydd cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

‘Diffyg atebolrwydd’

Mae’r gwaharddiad arfaethedig yn anelu i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, sydd ar ei hisaf ers i gofnodion ddechrau, gyda dim ond 9% yn ymddiried mewn gwleidyddion i ddweud y gwir.

Mae mwy na dau draean o bobol yn cefnogi cyfraith newydd sy’n gwahardd celwyddau gwleidyddol, yn ôl pôl piniwn, gyda phleidleiswyr yn credu bod systemau i sicrhau gonestrwydd wedi methu.

Yn yr un modd, fe wnaeth Dr Sam Fowles, Cyfarwyddwr ICDR ac arbenigwr mewn cyfraith gyfansoddiadol, ddadlau bod systemau presennol, megis model Comisiynydd Safonau’r Senedd, yn brofedig annigonol.

“Mae rheolau’r Senedd eisoes yn gofyn bob gwleidyddion yn dweud y gwir, felly hefyd y rheolau mewnol ar waith yn San Steffan, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon,” meddai.

“Y broblem yw nad oes modd gorfodi’r rheolau hyn yn iawn.”

Mae’r papur yn disgrifio’r model safonau presennol fel “rysait ar gyfer mympwyoldeb”, gyda’r system yn ddibynnol ar farn un person “nad yw’n atebol yn ei hanfod”.

‘Modelau ffaeledig’

Rhybuddiodd yr ICDR fod y system bresennol, sy’n gweld penderfyniad y Comisiynydd Safonau’n cael ei gadarnhau gan y Senedd, yn dibynnu yn y pen draw ar wleidyddion “yn marcio’u gwaith cartref eu hunain”.

Yn rhan o brosiect tri mis i gynnig dull amgen, ffurfiodd y felin drafod di-duedd weithgor o wleidyddion ac arbenigwyr cyfreithiol ac academaidd.

Daeth y grŵp i’r casgliad fod rhaid i’r gyfundrefn dorri’n rhydd oddi wrth fodelau ffaeledig, bod yn annibynnol, cynnig datrysiadau cyflym, a gwahaniaethu rhwng datganiadau ffals a chywir, gan warchod rhyddid barn.

O dan y model, byddai llys yn cyflwyno hysbysiad sy’n gofyn am gywiriad cyhoeddus pe bai Aelod o’r Senedd neu ymgeisydd yn cael eu gweld yn gwneud datganiad ffeithiol anghywir neu gamarweiniol.

Pe bai’r gwleidydd yn gwrthod cydymffurfio o fewn saith diwrnod heb reswm dilys, byddai’r llys yn cyflwyno gorchymyn yn gwahardd y gwleidydd rhag bod mewn swydd gyhoeddus tan o leia’r etholiad nesaf.

Byddai unrhyw bleidleisiwr yn gallu gwneud cais am orchymyn cywiro, a’r llys yn gallu gwrthod hawliadau pitw’n gynnar, gyda throsedd o wneud ceisiadau blinderus yn gweithredu fel ataliad.

‘Argyfwng o ran ymddiriedaeth’

Roedd yr arbenigwyr yn ffafrio model cyfraith droseddol er mwyn anfon neges gref at bleidleiswyr eu bod nhw’n cymryd twyll bwriadol o ddifrif, ond daethon nhw i’r casgliad y gallai model cyfraith sifil fod yn effeithiol hefyd.

“Mae’r argyfwng o ran ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth wedi codi am nad oes cymhelliant gwirioneddol i wleidyddion ddweud y gwir,” meddai Dr Sam Fowles, oedd yn rhan o’r her lwyddiannus yn y Goruchaf Lys yn erbyn y penderfyniad anghyfreithlon i ddiddymu Senedd y Deyrnas Unedig dros dro yn 2019.

“Bydd model yr ICDR yn gwyrdroi hynny drwy ofyn bod gwleidyddion yn cywiro’r cofnod pan fyddan nhw’n ein camarwain ni.

“Bydd yn golygu ein bod ni, fel pleidleiswyr, yn deall yn well ac yn gallu dwyn y rhai mewn grym i gyfrif, a gwneud Cymru’n un o’r democratiaethau mwyaf datblygiedig yn y byd.”

Fe wnaeth Adam Price o Blaid Cymru gynnig gwneud twyll bwriadol yn drosedd, mewn gwelliant i’r hyn sydd bellach yn Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.

‘Brad’

Cafodd y cynllun gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd, yn fwyaf nodedig gan Lee Waters o’r Blaid Lafur, ond cafodd ei dynnu ar yr unfed awr ar ddeg o ganlyniad i’r cytundeb â Llywodraeth Cymru.

Ymrwymodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru ar y pryd, i gyflwyno deddf ar symud gwleidyddion o’u swyddi am dwyll bwriadol, wrth wahodd Pwyllgor Safonau’r Senedd i ddatblygu manylion.

Yn rhan o ymchwiliad i atebolrwydd, mae’r pwyllgor hefyd yn ystyried system adalw ar hyn o bryd, fyddai’n galluogi pleidleiswyr i symud aelodau sy’n camymddwyn o’u swyddi rhwng etholiadau’r Senedd.

Fe wnaeth y gwleidyddion sy’n aelodau’r pwyllgor drafod twyll bwriadol a phedwar o gwynion am ymddygiad eu cydweithwyr ddydd Llun (Hydref 7), ond cafodd y cyhoedd a’r wasg eu gwahardd o’r cyfarfod.

Yn eu cynnig i’r Pwyllgor Safonau, rhybuddiodd yr ICDR y byddai gwneud tro pedol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru’n cael ei ystyried yn frad, gan niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd ymhellach.