Mae Cymru’n “prysur ddod yn arweinydd byd” o ran trochi plant mewn ieithoedd newydd, yn ôl Ysgrifennydd Addysg Cymru.

Mae Lynne Neagle wedi bod yn ymweld â chanolfannau trochi Cymru, ac yn eu clodfori am eu dulliau arloesol ac unigryw wrth ddarparu rhaglenni dysgu dwys i ddysgwyr ifainc.

Mae’r canolfannau hefyd wedi derbyn canmoliaeth mewn adroddiad diweddar gan Estyn, wrth i’r arolygwyr ysgolion gydnabod pwysigrwydd y cyrff wrth i blant drosglwyddo i systemau addysg Gymraeg.

Mae canolfannau trochi’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ifainc sydd heb gael addysg Gymraeg o’r cychwyn i fedru cael eu trochi yn yr iaith yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Mae nifer gynyddol yn defnyddio’r canolfannau ledled Cymru.

Er enghraifft, mae canolfan yn Wrecsam wedi croesawu dros 600 o ddysgwyr ers 2022.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £8.8m eisoes i sicrhau darpariaeth y canolfannau, gan ddweud ei fod yn gyfle unigryw i greu siaradwyr Cymraeg newydd.

‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd’

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae’r holl ganolfannau trochi a hwyr yn helpu i sicrhau bod ein hiaith hardd yn parhau i ffynnu,” meddai Lynne Neagle.

“Hyd yma, mae dros 4,000 o ddysgwyr wedi cael y cyfle i elwa ar raglenni trochi hwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ers i’r grant ddod ar gael yn 2021.”

Mae’r cyllid yn cefnogi 26 canolfan i ddysgwyr cynradd ac 16 canolfan i ddysgwyr uwchradd, ac mae’n ariannu recriwtio athrawon a darpariaeth technoleg addysgiadol.

Dulliau “unigryw” a byd-enwog

Mae dulliau trochi Cymru wedi denu sylw byd-eang.

“Mae’r ffordd rydyn ni’n trochi plant yn yr iaith Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru ac rydyn ni’n prysur ddod yn arweinwyr byd mewn darpariaeth trochi hwyr,” meddai Lynne Neagle wedyn.

“Mae academyddion o Quebec yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â ni a dysgu o’n harferion gorau yn y maes hwn.”

Yng Nghymru, mae dysgwyr sydd heb ddim Cymraeg, neu sydd heb lawer o’r iaith, yn cael eu trochi mewn rhaglenni sy’n para hyd at ddeuddeg wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae dysgwyr yn cadw mewn cysylltiad gyda’u hysgolion a’u cwricwlwm gwreiddiol.

Yna, pan maen nhw’n barod, maen nhw’n cael eu trosglwyddo i’r system addysg Gymraeg.

Yn ogystal â throsglwyddiadau o’r system Saesneg, mae’r canolfannau hefyd yn darparu trochi yn y Gymraeg i blant sydd wedi symud i Gymru o dramor.

Fe fu Lynne Neagle yn cyfarfod â merch bump oed sydd wedi symud i Gaerdydd o Colombia gyda’i theulu.

Mae’r ferch wedi bod yn mynychu Uned Trochi Iaith Ysgol Gynradd Groes Wen ers mis Medi, ac yn mwynhau ymarfer siarad Cymraeg gyda’i ffrindiau newydd.

“Rwy’n hynod falch o ddysgwyr ac ysgolion ledled Cymru, sy’n hyrwyddo dysgu trochol a datblygu sgiliau iaith a fydd o fudd i bobl ifanc am oes,” meddai Lynne Neagle wedyn.